Brexit: A gaiff Cymru wrandawiad teg?

  • 30 Mawrth 2017
Brexit

"Rydw i eisiau cytundeb Brexit sy'n gweithio ar ran y Deyrnas Unedig gyfan."

Dyna y mae'r prif weinidog wedi dweud ers talwm.

Fe fydd Cymru, meddai Theresa May, yn "chwarae rôl llawn" yn y broses.

Ond nid ar chwarae bach y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn y lle cyntaf, mae rhaid cofio bod angen cytundeb bob un o'r 27 o wledydd sy'n parhau yn y clwb.

Wrth gwrs, mae gan y Prif Weinidog ben tost ychwanegol o frwydro dros gadw'r Deyrnas Unedig yn gyflawn.

Mae Senedd yr Alban wedi pleidleisio dros alw am ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, ac mae cenedlaetholwyr yng Ngogledd Iwerddon ar droed wrth i'w breuddwyd o ail-uno'r ynys werdd ddod yn fwy o realiti.

O ystyried y cyd-destun hynny, a fydd Cymru yn methu cael gwrandawiad yn San Steffan?

Image copyright European Photopress
Image caption Syr Tim Barrow yn cyflwyno llythyr Erthygl 50 i llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk

Er mwyn ceisio adlewyrchu barn y gwledydd datganoledig yn y broses, mae llywodraeth y DU wedi sefydlu'r Pwyllgor Cyd-Gweinidogol sydd eisoes wedi cwrdd dwywaith.

Ond mae Mark Drakeford, gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n mynychu'r pwyllgor, wedi cwestiynu effeithlonrwydd y fforwm.

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r DU wedi newid ers i ni ymuno â'r gymuned Ewropeaidd nôl ym 1972.

"Mae'r trafodaethau yma'n mynd i effeithio ar holl genhedloedd y DU i'r un graddau.

"Felly, dydyn ni ddim yn wlad ymylol - nid oes un o'r cenhedloedd datganoledig yn y sefyllfa yna.

"Ry'n ni'n disgwyl y bydd ein llais yn cael ei glywed trwy gydol y broses yma," meddai.

Llais i'w glywed?

Ond onid yw llais Cymru eisoes wedi ei glywed? Wedi'r cyfan, fe bleidleisiodd y wlad dros Brexit a dyna sydd yn digwydd.

A yw e yr un mor glir pa fath o Brexit oedd y pleidleiswyr yn ei gefnogi?

Mae'r Athro Patrick Minford, cefnogwr brwd dros adael yr Undeb Ewropeaidd, yn bendant ei fod e.

"Roedden nhw eisiau mwy o gystadleuaeth economaidd, roedden nhw am cael gwared ar reoliadau yr Undeb Ewropeaidd, roedden nhw eisiau dod a'r system o fudo rhydd ar draws yr Undeb i ben," meddai.

Nid felly y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld hi - er, rhaid cofio, fe anghytunodd y rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru gyda gweinidogion yng Nghaerdydd a oedd am i'r wlad barhau yn yr Undeb.

Ta beth, mae cynllun Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn galw am barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl.

Image caption A gaiff Carwyn Jones fwy o wrandawiad dros y blynyddoedd nesaf?

Wrth lansio'r papur gwyn, fe alwodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Leanne Wood am "ddull cytbwys o fynd i'r afael â mudo, drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi".

Galwodd hefyd am berthynas "gyfansoddiadol sylfaenol wahanol" rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU.

I'r perwyl hwnnw, bu gwleidyddion amlwg o'r blaid Lafur yn cyfarfod i geisio llunio polisïau newydd ar ddatganoli.

Mae Carwyn Jones wedi bod yn galw am fath o gonfensiwn cyfansoddiadol ers 2012.

Cawn weld a gaiff e fwy o wrandawiad ynghylch Brexit dros y blynyddoedd nesaf.