FIFA yn dechrau camau disgyblu yn erbyn Neil Taylor

  • 30 Mawrth 2017
Ashley Williams Image copyright Getty Images
Image caption Capten Cymru, Ashley Williams yn cysuro Seamus Coleman wrth iddo gael ei gludo o'r cae

Mae FIFA wedi dechrau camau disgyblu yn erbyn Neil Taylor yn dilyn y dacl a dorrodd goes Seamus Coleman yn ystod yr ornest rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon nos Wener.

Cafodd Taylor ei anfon o'r maes yn dilyn y cerdyn coch ar ôl 68 munud, ac mae'r gwaharddiad awtomatig am un gêm yn golygu na fydd yn chwarae yn erbyn Serbia ym mis Mehefin.

Ond bydd panel disgyblu FIFA nawr yn archwilio adroddiad y dyfarnwr, ac fe allan nhw benderfynu ymestyn y gwaharddiad.

Fe aeth Taylor i ystafell newid y Gwyddelod ar ddiwedd y gêm i ymddiheuro wrth Coleman, ond roedd eisoes wedi cael ei gludo i'r ysbyty.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Neil Taylor ei anfon o'r maes yn dilyn y dacl

Cafodd yr amddiffynnwr lawdriniaeth ar ei goes dros y penwythnos, ac mae'r Cymro wedi cysylltu ag ef ers hynny i roi dymuniadau gorau iddo ac ymddiheuro am y dacl.

Ar hyn o bryd mae Cymru'n drydydd yn eu grŵp rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018 - pedwar pwynt y tu ôl i Iwerddon a Serbia - gyda phum gêm yn weddill.