"Nesh i ddim ei gweld hi eto"

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Delyth Ann Jones Williams a Valmai Lloyd yn siarad am eu profiadau personol o golli plentyn ym mhennod gyntaf 'Y Golled' ar Radio Cymru

Yr wythnos hon bydd cyfres newydd yn dechrau ar BBC Radio Cymru sy'n olrhain hanes chwech o bobl a'u profiadau nhw o geisio dygymod â cholli rhywun oedden nhw'n eu caru.

Valmai Lloyd o Gaernarfon ydy un o leisiau cyntaf cyfres Y Golled. Mewn cyfweliad emosiynol, bu'n sôn am y profiad o golli ei merch, Emma Bernard, fu farw mewn damwain car yn 18 oed:


Cofio caredigrwydd

Roedd Emma yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Brynrefail yn Llanrug, yn ddisgybl addawol a newydd orffen ei Lefel A.

Roedd hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn ac yn haeddu mynd ar wylia'. Roedd ganddi hi gariad oedd tua dwy flynedd yn hŷn na hi ac ar ddiwedd ei Lefel A roedd hi isio mynd ar wylia' efo fo.

Do'n i ddim yn berffaith hapus achos doedd hi erioed wedi bod i ffwrdd heb ei mam na'i thad. Ond mi aethon nhw.

Dwi'n cofio'r diwrnod... o'n i'n torri 'nghalon uwchben y sinc yn y gegin a dyma fy merch hyna' i'n deud: "O Mam dim ond ar ei gwylia' ma' hi 'di mynd, welwch chi hi mewn pythefnos."

Nesh i ddim ei gweld hi eto.


Mwy am 'Y Golled'


Do'n i ddim yn gwybod ei bod hi ar ei ffor' adra. Oeddan nhw ochra' Rhydychen ac wedi cael benthyg car rhieni ei chariad i ddod adra i Gymru.

Gaethon nhw ddamwain fawr tu allan i Kidderminster, sir Worcester, ac mi lladdwyd Emma yn y fan.

Dwi'n cofio caredigrwydd plismon ifanc o sir Worcester, a wyddoch chi ei fod o wedi dod ar ei feic [modur] yr holl ffor' i Lanrug yn ei ddillad lledr du dim ond i dd'eud wrthaf i: "I did everything I could, I wanted to tell you personally, I did everything I could."

Aetho ni i'r ysbyty yn Kidderminster i ffarwelio â hi. Oedd hi'n edrych yn hyfryd, yn dlws a dwi'n diolch i Dduw nad oedd yna ddim marc arni hi, ei bod hi'n berffaith.

Image copyright Llun llyfrgell

Siarad yn agored

Dwi'n siŵr bod o wedi cymryd tua mis i fi sylweddoli be' oedd wedi digwydd ac na fysa' hi byth yn dod adra eto.

Doedd gen i ddim ofn crio - nesh i 'neud digon ohono fo ym mhob man, os oedd y teimlad yn dod dyna fo.

Mae tair o ffrindia' Emma wedi bod yn hynod o ffeind, wedi cynnwys fi'n bob parti, bob priodas, bob bedydd, bob dim.

Dwi'n falch drostyn nhw cofiwch, bod nhw wedi cael plant, ond fyddai'n teimlo: "what if?"

Fysa gan Emma blant heddiw 'ma? Be fysa'i swydd hi? Lle fysa' hi'n byw? Lle fysa' ni'n cael mynd efo'n gilydd?

Mi oedd 'na rhai pobl yn osgoi fi ac mi o'n i'n gweld nhw'n croesi'r stryd. Nesh i feddwl i fy hun 'iawn, os na fel 'na ydach chi'n delio efo fo, ma' hynna'n iawn'.

Nesh i ddim wfftio, achos yn amlwg doeddan nhw ddim yn gallu delio efo fo.

Dwi'n hynod o lwcus achos mae gen i lawer iawn o ffrindia' a fyswn i heb allu copio hebddyn nhw.

Os wnewch chi werthfawrogi bywyd a bob dim ynddo fo, mae 'na ola'n dod ar ddiwadd y twnnal ac mae'n rhaid i chi gario 'mlaen achos dyna be' fysa'r person naethoch chi'u golli'n dd'eud.

Mae o'n rhyfeddol, dwi wedi bod yn eglwyswraig trwy fy mywyd ond nesh i ddim colli ffydd - 'nath o ddod yn gryfach, yn lot cryfach wedyn.

Mae siarad yn agored mor bwysig. Fedran ni ddim anwybyddu'r person sy' wedi bod. Mae colli'ch plant yn erbyn y drefn yn dydi? Nhw sy' fod i gladdu ni, ddim fel arall.

Mae galar yn wahanol i bawb, ma'n dywyll i bawb, ond ma' [colli] plentyn yn erbyn y graen.