Dysgu'r Gymraeg ar lafar

olwyn Image copyright Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Bydd cyfle i ddysgwyr y Gymraeg fwynhau siarad yr iaith mewn gŵyl genedlaethol newydd, diolch i bartneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd gŵyl undydd 'Ar Lafar' yn cael ei chynnal ar 22 Ebrill mewn tri o safleoedd yr Amgueddfa - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis - ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae tri dysgwr o'r de ymhlith y rhai sy'n edrych ymlaen at y diwrnod. Maen nhw'n egluro wrth Cymru Fyw sut aethon nhw ati i ddysgu'r iaith:


Ann McGuffin - dysgu Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd

Pan o'n i'n dal yn gweithio a magu'r plant doedd dim amser sbâr gyda fi i ddysgu'r iaith. Ond pan wnes i ymddeol, roedd digon o amser gyda fi.

Ro'n i'n gorfod gwneud rhywbeth i gadw fy ymennydd i weithio; rhywbeth allai fod yn dipyn o her hefyd. Wedyn wnes i gwrs Wlpan am fis dros yr haf. Wel, datguddiad oedd!

Ro'n i'n dwlu ar ddysgu Cymraeg ac wrth fy modd gyda'r dosbarthiadau. Nawr roedd rhywun arall yn gwneud y gwaith tiwtora ac yn paratoi'r gwersi (dim fi fel pan o'n i'n gweithio). Gallwn i fwynhau dysgu unwaith eto fel yn yr ysgol.

Beth yw'r pethau gorau am ddysgu Cymraeg? Wel, i fi, dysgu am yr iaith, ei chyfoeth, ei chymhlethdodau a'i phrydferthwch.

Hefyd dwi'n hoffi dysgu gramadeg, (tipyn o nerd a dweud y gwir!) Dwi'n mwynhau dysgu am y Cymry a'r diwylliant Cymreig.

Ond y peth gorau yw cwrdd â phobl eraill sy'n siarad Cymraeg. Maen nhw'n dod o ledled y byd ac fel arfer mae rhesymau hollol wahanol i ddysgu Cymraeg gyda nhw. I fi mae hynny yn ddiddorol iawn.

Beth am weithgareddau cyfrwng Cymraeg? Wel yn fy marn i, maen nhw'n bwysig dros ben.

Ar ôl treulio llawer o amser yn yr ystafell ddosbarth yn dysgu'r iaith, mae'n bwysig iawn i ddefnyddio'ch sgiliau newydd, yn enwedig siarad yr iaith.

Er bod llawer o weithgareddau gwahanol i'w gwneud yn y brifddinas, does dim digon i godi proffil yr iaith, yn enwedig gyda thrigolion y ddinas neu ymwelwyr i Gymru.

Dyma pam mae e'n gyffrous iawn i ffeindio manylion am y digwyddiad "Ar lafar" yn yr Amgueddfeydd a'r Llyfrgell Genedlaethol ar 22 Ebrill.

Dwi'n hoffi siarad Cymraeg gyda'r tywyswyr yn Sain Ffagan, ac yn fy mhrofiad i maen nhw i gyd yn hapus iawn i siarad â fi. Fel arfer mae'r wyrion yn cwyno fy mod i'n siarad gormod!


Joseph Flatt - dysgu Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd

Clywais i am yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf yn y nawdegau pan o'n i'n arfer gwrando ar fandiau fel Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci.

Daeth Super Furry Animals i Brighton ar gyfer sioe a chollais i fy nghlyw am wythnos. Ond wrth lwc, ddalais i ddim dig a deunaw mlynedd wedyn yn 2015, penderfynais i wneud ymdrech i ddysgu Cymraeg a nes i gofrestru ar gwrs Mynediad.

Wel taswn i'n byw yn Ffrainc baswn i'n dysgu Ffrangeg yn bendant, reit? Wrth gwrs. Felly, dyw hi ddim wir yn iawn i fi setlo ym mhrifddinas Cymru heb allu siarad bach o Gymraeg, ydy hi?

Ar yr un pryd, ro'n i angen tipyn o her. Dwi'n gweithio fel glanhawr ac a dweud y gwir dyw'r swydd ddim yn ymestyn fy ymennydd llawer. Dim ond fy amynedd, fel arfer.

Mae dysgu Cymraeg yn esgus da am fod yn fusneslyd hefyd, a thrwy'r iaith dwi wedi cwrdd â llawer o bobl ddiddorol o bob math o gefndir. Mae dysgu siarad iaith yn gorfodi pobl i gymysgu a chymdeithasu, sy'n beth da.

Dwi'n lwcus iawn o fod mewn dosbarth ble mae pawb yn dod ymlaen yn dda, ac mae awyrgylch bywiog a chyfeillgar bob wythnos. Mae'r iaith yn hanfodol er mwyn darganfod diwylliant Cymru.

Dwi byth yn debygol o ganu cerdd dant ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol neu werthfawrogi campweithiau'r beirdd efallai, ond dwi'n falch iawn o allu dilyn pennod o Pobol Y Cwm heb is-deitlau a deall geiriau caneuon Datblygu.

Y ffordd orau i wella sgiliau siarad yw defnyddio'r sgiliau hynny mor aml â phosib a dyna pam mae digwyddiadau fel Ar Lafar yn bwysig.

Fel dysgwr, siarad a gwrando yw'r elfennau mwya' heriol. Wrth ddarllen ac ysgrifennu, does dim brys ac mae'n bosib ymarfer ar eich pen eich hun.

Ond wrth siarad a gwrando, rhaid i chi feddwl ar eich traed. Dyw hyn ddim yn dod yn naturiol i fi ac weithiau mae fy mrawddegau'n parhau am funudau heb gyrraedd diwedd boddhaol. Mae'n helpu bod ymysg dysgwyr eraill sy'n deall fel y mae.


Sheila Harries - dysgu Cymraeg gyda Chyngor Bro Morgannwg

Ro'n i'n arfer byw yn Llundain ac yn sir Rhydychen nes i fi ddod i fyw yng Nghymru. Pan symudais i yma saith mlynedd yn ôl doeddwn i ddim yn deall dim ond "Dim parcio" a "Dim cŵn"!

Does dim rhaid i fi siarad Cymraeg yn fy mywyd bob dydd a dwi ddim angen defnyddio'r iaith yn y gwaith oherwydd mod i wedi ymddeol.

Ond dwi'n meddwl bod yr iaith yn hanfodol i hunaniaeth y bobl. Mae diddordeb gyda fi mewn ieithoedd ac mae'r Gymraeg yn iaith ddiddorol iawn ac yn un o ieithoedd hyna'r byd.

Mae pob dosbarth yn rhoi her fawr i fi - ond mae hefyd boddhad gyda fi oherwydd fy mod i'n gallu deall ychydig mwy o raglenni ar S4C!

Hoffwn i barhau i ddysgu Cymraeg wrth i fi fyw ym Mhenarth. Mae uchelgais gen i i siarad Cymraeg yn rhugl a darllen nofelau a barddoniaeth yn Gymraeg.

Dwi'n edrych ymlaen at "Ar Lafar", Gŵyl Gymraeg i Ddysgwyr, oherwydd mod i'n mwynhau wastad cwrdd â phobl eraill sy'n siarad Cymraeg.

Dwi'n credu bod gweithgareddau anffurfiol yn angenrheidiol i ddysgwyr Cymraeg. Maen nhw'n rhoi cyfleoedd i gael amser da ac i siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd naturiol ar yr un pryd.

Pan dwi'n mynd i ddigwyddiadau i ddysgwyr y tu allan i'r dosbarth, dwi'n mynd adre' gyda mwy o hyder a gyda mwy o benderfyniad i fynd ymlaen.

Dwi wedi cwrdd â llawer o bobl ddiddorol sy'n dysgu Cymraeg a dwi wedi darganfod eu rhesymau dros ddysgu'r iaith ac yn gwrando ar eu profiadau drwy'r amser. Mae hi'n rhan bwysig o fy mywyd i.

Image copyright Sain Ffagan , Amgueddfa Werin Cymru
Image caption Bydd croeso mawr i'r dysgwr yn Sain Ffagan ar 22 Ebrill