Tipyn o ddringo!

  • 20 Mai 2017
Abertawe Image copyright Peter Shaw/Geograph
Image caption Mae Constitution Hill yn Abertawe yn serth iawn gyda graddfa o 20%

Dydy Cymru ddim yn brin ohonyn nhw a hithau'n wlad mor fynyddig. Ond wyddoch chi ble mae'r strydoedd mwyaf serth?

Ymhlith yr enwocaf mae Constitution Hill, Abertawe. Cafodd y rhiw serth sydd â graddfa (gradient) o 20% ei hanfarwoli yn y ffilm Twin Town. Cafodd y brodyr Lewis eu gweld yn sgrialu mewn car ar gyflymder uchel i lawr yr allt. Mae cyfyngiadau wedi eu gosod ar y stryd ers hynny er mwyn rhwystro eraill rhag efelychu eu campau peryglus.

Pan ystyriwch chi bod yna strydoedd serth yn Aberystwyth a Bangor hefyd, mi ddylai myfyrwyr Cymru fod ymhlith y rhai mwyaf heini yn y DU!

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Golwg gyflym ar un o elltydd mwyaf serth Cymru

Mae Cefn Llan, sy'n arwain o Llanbadarn tuag at gampws Prifysgol Aberystwyth â graddfa o 25%. Dyw hi ddim mor serth a rhai o elltydd y Tour de France ond mae'n gosod her flynyddol i gystadleuwyr Gŵyl seiclo Aberystwyth. Shelley Childs, yw un o drefnwyr yr ŵyl:

"Y llynedd, am y tro cyntaf daeth 32 o seiclwyr acw i herio eu hunain a chystadlu yn erbyn ei gilydd trwy ddringo 150m i fyny Cefn Llan. Roedd dau seiclwr ym mhob ras gydag enillydd pob gornest yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf. Her wirioneddol!

Image copyright Google
Image caption Mae'n haws gyrru i lawr Cefn Llan na seiclo i'r copa!

"Mae'r trefniadau ar y gweill ar gyfer gŵyl eleni hefyd a bydd dringo Cefn Llan yn rhan o'r ŵyl unwaith eto. Y tro hwn bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 27 Mai felly gobeithio y bydd llu o wylwyr yn dod draw i weld a chefnogi'r cystadleuwyr."

Does na ddim prinder rhiwiau serth yng nghymoedd y De, gyda sawl ymgeisydd am allt fwyaf serth Cymru. Ymhlith y rhai sydd angen tipyn o waith i'w dringo mae School Terrace, Blaengarw yn sir Penybont.

Her fawr yr eira

Yn ôl ym 1963, yn ystod gaeaf mwyaf rhewllyd yr ugeinfed ganrif a'r oeraf ers 1740, roedd Cynthia Davies yn byw ar ben School Terrace - gyferbyn â'r ysgol a roddodd yr enw ar y stryd.

"Nôl ym 1963, roeddwn i'n athrawes ifanc yn ysgol Secondary Modern Blaengarw, yn dysgu Cymraeg. Roeddwn i'n lletya mewn tŷ tuag at dop School Terrace a oedd yn gyfleus iawn ar y cyfan o ran cyrraedd yr ysgol - tan i'r rhew a'r eira gyrraedd!

Image copyright Jaggery/Geograph
Image caption School Terrace, Blaengarw

"Bryd hynny, gyda'r eira ar lawr, roedd croesi'r ffordd yn dipyn o her gan ei bod hi'n ffordd mor serth. Chwarae teg i'r plant, fe ddaeth criw ohonyn nhw draw i'm hebrwng i dros y ffordd i'r ysgol. Dwi ddim yn cofio ein bod ni wedi syrthio'n glep ar y ffordd draw - er mor serth y ffordd."

Angen brêcs da!

Ond yn curo'r cyfan mae Ffordd Pen Llech yn Harlech sy'n cael ei chydnabod fel y "ffordd gyhoeddus, mwyaf serth sydd â tharmac ac arwyddion arni", gyda'r arwydd ar y gwaelod yn nodi graddiant o 40% sy'n ddifrifol o serth!

Un o'r rhai sy'n byw ar y bryn yw Gavin Brick.

"Rwy'n cerdded o orsaf y trên i fyny'r bryn sawl gwaith yr wythnos gyda'm bagiau siopa, a'r gwir yw eich bod chi'n dod i arfer ag e. Mae'n wir ei bod hi'n anoddach yn yr hydref o ganlyniad i'r dail dan draed, ac yn gaeaf, pan fydd hi'n rhewllyd neu eira ar lawr, ond mae rhywun yn dod i arfer â'r rhiw serth. Yn sicr mae'n fwy o her ar gefn beic nac ar droed."

Ychydig flynyddoedd yn ôl aeth Huw Charles, yn wreiddiol o Fethesda, ar gefn ei feic o Gaergybi i Gaerdydd gyda chriw o ffrindiau.

Image copyright Ian Capper/Geograph
Image caption Ffordd Pen Llech, Harlech

"Mae'r atgof sydd gen i o Ffordd Pen Llech yn Harlech yn fyw iawn. Dwi'n cofio meddwl ar dop y bryn y byddai'n nos arna i pe buasai brêcs fy meic yn methu. Roeddem i gyd reit betrusgar wrth seiclo i lawr y llethr a'n breichiau a'n dwylo ni wedi blino'n lan o ganlyniad i wasgu'r brêc mor hir erbyn cyrraedd y gwaelod.

"A deud y gwir, mi fuaswn i'n dweud mai'r daith o orsaf Llandecwyn trwy Eisingrug i Harlech oedd un o rannau mwyaf anodd y daith 250 milltir o Gaergybi i Gaerdydd - a wedyn mynd i lawr rhiw Ffordd Pen Llech ar y diwedd gyda'r olygfa fendigedig yna o'ch blaen! Mae'n brofiad na fydda i byth yn ei anghofio."


Ydych chi'n byw ar allt serth? Rhowch wybod i ni trwy gysylltu ar Twitter neu gadewch neges ar ein tudalen Facebook. Os ydy hi'n well ganddoch chi gallwch anfon e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk

Dyma rhai o'r sylwadau a gafwyd trwy e-bost ac ar Facebook hyd yma:

Catrin Elis Williams: "Mae Lôn Cefn Tŷ (rhwng Minffordd a Llandygai) yn sobor o serth gerllaw Ffordd Hendrewen, Bangor!"

JohnSamuel: "Heol y Mynach, Aberdâr, sy'n dringo dros y mynydd i Faerdy yn y Rhondda Fach"

Elin Ellis: "Abertyleri ym Mlaenau Gwent?"

Selwyn Thomas: "Allt rhiw Pen Llŷn"

Aled Wyn Evans: "Harlech!"

Ceri Llwyd: "Allt y powls yn Llanfair Talhaiarn, allt Waterloo yn Llangernyw!!"

Aled Richards: "Cefn Llan, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth"

AnnTemple Morris: "Allt Gaffi, Bethesda"

Myrddin Roberts: "Beth am yr allt o Draeth Coch i fyny at Landdona?"

John Samuel: "Mountain Road, Cwmaman, Aberdâr"

Awen Hamilton: "Nant Gwrtheyrn?"

Jane Marie: "Lon gam o draeth Nefyn yn serth a throellog"

Gwilym Edwards: "Y lon lle mae y hogyn bach yn mynd i fyny hefo Hovis i'w Fam"

David Roberts: "Os cewch chi hyd i un serthach na Gallt Pisgah, Pentre Broughton, Wrecsam, liciwn i wybod lle."

George Davies: "Y ddwy stryd sydd yn dringo i dai Summer Hill, Blaenau Ffestiniog - mae gen i gof clir o weithio yn y Post dros Dolig a gorfod cario llawer sach llond llythyron i Summer Hill. Hefyd y stryd yn Tan y Grisiau sydd yn dringo oddi tan y lein fach i fyny i dai Dolrhedyn."