Angen 'cyfeiriad clir' i reolaeth Parciau Cenedlaethol

Brecon Beacons

Mae angen penderfyniad clir ynglŷn â'r modd y bydd Parciau Cenedlaethol Cymru yn cael eu rheoli yn y dyfodol, yn ôl cydawdur arolwg o diroedd gwarchodedig Cymru gafodd ei gyhoeddi yn 2015.

Dywed Dr Ruth Williams fod angen i weinidogion roi cyfeiriad pendant ar adeg "pan mae Cymru yn ceisio hyrwyddo ei hun yn fwy nac erioed ar y llwyfan byd eang."

Mae hi hefyd yn dweud fod yna ormod o arolygiadau ac oedi wedi bod wrth geisio dod i benderfyniadau.

Daw ei sylwadau ar ôl i grwpiau cadwriaethol feirniadu adroddiad drafft o argymhellion grŵp craffu, gafodd ei sefydlu i arolygu casgliadau arolwg 2015.

Dywed gweinidogion mai dim ond fersiwn drafft o'r adroddiad sydd ar gael a bod trafodaethau yn parhau ar ei gynnwys.

'Datgloi potensial'

Tirwedd y Dyfodol Cymru, dan gadeiryddiaeth Dafydd Ellis Thomas, sydd wedi bod yn ystyried sut i weithredu casgliadau arolwg 2015.

Dywed adroddiad drafft, ddaeth i ddwylo BBC Cymru, mai un nod yw "datgloi potensial llawn holl dirweddau Cymru", a bod gan Barciau Cenedlaethol ac ardaloedd o brydferthwch naturiol ran allweddol i chwarae yn llewyrch y wlad."

Fe wnaeth corff sy'n cynrychioli Parciau Cenedlaethol Cymru, ddweud fod yr adroddiad drafft yn "yn peri risg i enw da parciau cenedlaethol fel tirweddau gwarchodedig yng Nghymru".

Image caption Dr Ruth Williams: Galw am benderfyniadau clir

Dywedodd nad oedd yna unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at nod statudol y Parciau Cenedlaethol o warchod prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt ac etifeddiaeth ddiwylliannol.

Dywedodd Dr Williams, ymgynghorydd amgylcheddol sydd wedi bod yn uwch swyddog gyda Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac AHNE Dyffryn Gwy, ei bod hi hefyd yn poeni am nad oedd sylw wedi ei roi i'r dyletswydd statudol.

Mae hi hefyd yn poeni nad yw'r camau nesaf yn amlwg, a bod angen bod yn fwy eglur ynglŷn â phwy fydd yn gweithredu unrhyw newidiadau.

"Mae'r adroddiad yma nawr yn argymell y dylai fod yna arolwg pellach mewn rhai meysydd," meddai.

"Rwy'n credu fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ar ran yr asedau pwysig hyn, a dweud unai i 'gario mlaen fel yr ydych, rydych yn gwneud gwaith gwych.'

"Neu drwy ddweud yn glir ond yn ofalus iawn - dyma'r camau nesaf rydym am eu cymryd ond mae'n rhaid sicrhau fod yna fesurau sy'n gwarchod yn cael eu rhoi mewn lle."

Ychwanegodd y byddai angen rhagor o arian cyn cyflwyno unrhyw newidiadau.

Image caption Mae Bannau Brycheiniog yn un o dri Parc Cenedlaethol yng Nghymru

Mae tirwedd sydd wedi ei ddiogelu yn cynrychioli tua 25% o dirwedd Cymru - gan gynnwys tri pharc cenedlaethol a phump AHNE - ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Dywed gweinidogion mai fersiwn drafft o'r adroddiad sydd ar gael a bod trafodaethau yn parhau ar ei gynnwys.

Mae tirwedd sydd wedi ei ddiogelu yn cynrychioli tua 255 o dirwedd Cymru - gan gynnwys tri pharc cenedlaethol a phump AHNE.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae Rhaglen Tirweddau'r Dyfodol Cymru wedi bod yn hynod gydweithredol ei natur ac wedi cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid, sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau a'r drafftio.

"Mae'r trafodaethau hyn yn barhaus wrth i adroddiad terfynol gael ei baratoi ar gyfer ei gyhoeddi cyn toriad yr haf."