Gwrthdrawiad: Cyhoeddi enw dynes fu farw ger Llanelwedd

  • 31 Mawrth 2017

Mae'r heddlu wedi cadarnhau enw dynes fu farw wedi gwrthdrawiad ger Llanelwedd ar 29 Mawrth.

Roedd Kelly Jane Price yn 27 ac o ardal Llanfair ym Muallt.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Lupo glas a lori ar yr A481 am tua 19:50 nos Fercher.

Ni chafodd gyrrwr y lori ei anafu, ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Straeon perthnasol