Dyn sbwriel o Wrecsam yn cyfaddef troseddau terfysgol

Aabid Ali Image copyright Daily Post
Image caption Cafodd Aabid Ali ei arestio yn ei gartref

Mae gweithiwr cyngor o ogledd Cymru wedi pledio'n euog i nifer o gyhuddiadau terfysgol.

Cafodd Aabid Ali, oedd yn defnyddio'r enw Darren Glennon cyn troi i Islam, ei ddarganfod gyda dogfennau terfysgol yn ei feddiant.

Roedd Ali, 49 o Wrecsam, hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar YouTube yn annog eraill i gyflawni gweithredoedd terfysgol.

Cafodd y casglwr sbwriel ei arestio ar ôl i swyddogion chwilio ei gartref yn yr hydref y llynedd.

Yn Llys y Goron Manceinion, fe wnaeth Ali gyfaddef tri chyhuddiad a bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.