Rhybudd yr heddlu cyn gêm Wrecsam v Tranmere

  • 1 Ebrill 2017
Cae Ras
Image caption Bydd y gic gyntaf ar y Cae Ras am 12:15

Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhybuddio cefnogwyr am eu hymddygiad cyn yr ornest rhwng Wrecsam a Tranmere yn y Gynghrair Genedlaethol.

Bydd y ddau dîm yn wynebu'i gilydd ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn, a daw rhybudd yr heddlu yn dilyn rhywfaint o drafferthion ymysg cefnogwyr yn y gorffennol.

"Byddwn ni'n delio gydag unrhyw un sydd yn ceisio cymryd mantais o'r gêm bêl-droed hon wrth ymddwyn mewn modd troseddol, hiliol neu gwrth-gymdeithasol," meddai'r prif uwcharolygydd dros dro, Alex Goss.

"Bydd cefnogwyr sydd wedi meddwi, gyda ffaglau yn eu meddiant neu'n ymddwyn yn aflonydd ddim yn cael eu gadael i mewn i'r maes."

Ychwanegodd mai'r bwriad oedd sicrhau bod cefnogwyr yn mwynhau'r gêm mewn "awyrgylch gyfeillgar ac ymlaciol".

Ar hyn o bryd mae Wrecsam yn 10fed yn y tabl, tra bod eu gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn yn ail ac yn ceisio sicrhau dyrchafiad i Adran Dau.