Bala a'r Cofis yn gobeithio creu hanes
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pêl-droedwyr Caernarfon a'r Bala'n gobeithio creu hanes

1 Ebrill 2017 Diweddarwyd 10:02 BST

Mae cefnogwyr clybiau pêl-droed Caernarfon a'r Bala yn edrych mlaen at un o'r gemau pwysica' yn eu hanes yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru.

Dydy 'run o'r ddau dîm wedi cyrraedd y ffeinal o'r blaen - felly bydd o leia' un yn creu hanes ddydd Sadwrn.

Mae'r timau'n wynebu'i gilydd yn y Rhyl am 17:15.