Dau yn yr ysbyty wedi ymosodiad ag arf miniog yng Nghaerdydd

Despenser Gardens Image copyright Google
Image caption Mae Despenser Gardens yn ardal Glanyrafon, nepell o Stadiwm y Principality

Mae'r heddlu yn apelio wedi i ddau ddyn gael eu hanafu mewn ymosodiad difrifol gydag arf miniog yng Nghaerdydd.

Fe gafodd swyddogion arfog eu hanfon i Despenser Gardens yn ardal Glanyrafon toc cyn 19:00 nos Wener.

Mae'r dynion yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Yn ôl Heddlu'r De, fe welodd tystion "anhrefn" yn ymwneud â grŵp o ddynion ifanc ychydig cyn y digwyddiad.

Wedi'r digwyddiad, aeth y ddau gafodd eu hanafu i orsaf betrol ar Tudor Street, ble ffonion nhw'r heddlu.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio ac yn apelio am dystion.