Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Tranmere

CPD Wrecsam Image copyright Getty Images

Colli oedd hanes Wrecsam yn erbyn Tranmere ar y Cae Ras.

Aeth y gwŷr o Lannau Mersi ar y blaen wedi 10 munud pan roddodd Olly Marx y bêl yn ei rwyd ei hun.

Yr ymwelwyr oedd yn rheoli am y rhan fwyaf o'r ornest, gyda Connor Jennings, Lee Vaughan a Jay Harris yn dod yn agos i ymestyn eu mantais.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn y 10fed safle yn y Gynghrair Genedlaethol, tra bod Tranmere yn codi i'r brig.

Straeon perthnasol