Adran Dau: Casnewydd 1-0 Crawley

  • 1 Ebrill 2017
Mickey Demetriou yn dathlu Image copyright Getty Images
Image caption Mickey Demetriou yn dathlu sgorio'r gôl allweddol

Roedd 'na hwb enfawr i obeithion Casnewydd i aros yn Adran Dau wrth iddyn nhw guro Crawley.

Aeth yr Alltudion ar y blaen ar ôl 18 munud diolch i ergyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi gan Mickey Demetriou.

Ddechrau'r ail hanner, aeth y ddau dîm i lawr i 10 dyn, pan gafodd Joss Labadie o Gasnewydd a Josh Yorwerth o Crawley eu hel o'r maes am ymddygiad treisgar.

Pum pwynt sydd bellach rhwng Casnewydd a'r safleoedd diogel yn Adran Dau.