Y Bencampwriaeth: Wolves 3-1 Caerdydd

Danny Batth yn dathlu sgorio ei ail gôl i Wolves Image copyright Getty Images
Image caption Danny Batth yn dathlu sgorio ei ail gôl i Wolves yn erbyn Caerdydd

Fe gurodd Wolves yr ymwelwyr o Gaerdydd mewn gêm fywiog ym Molineux.

Y tîm cartref sgoriodd gyntaf, gyda Danny Batth yn rhwydo wedi naw munud yn unig.

Ond o fewn tri munud fe darodd yr Adar Gleision yn ôl, gyda Kenneth Zohore yn rhwydo gyda pheniad o groesiad Jazz Richards.

Cyn y toriad, bachodd Wolves y fantais eto diolch i ail gôl Batth ar ôl 42 munud.

Seliodd Helder Costa'r triphwynt i'r clwb o Wolverhampton gydag wyth munud o'r gêm i fynd.

Mae Caerdydd yn disgyn i'r 14eg safle yn y Bencampwriaeth - dau safle uwchben Wolves.