Cyn gôl-geidwad Cymru, John Phillips, wedi marw yn 65

John Phillips mewn gêm rhwng Cymru a Lloegr yn 1974 Image copyright Getty Images
Image caption John Phillips oedd yn y gôl i Gymru wrth iddyn nhw wynebu Lloegr yn 1974

Mae John Phillips, cyn gôl-geidwad Cymru a Chelsea, wedi marw yn 65 oed.

Cafodd ei eni yn yr Amwythig ac arwyddodd i Aston Villa yn 1969 cyn symud i Chelsea yn 1971.

Chwaraeodd 149 o weithiau drostyn nhw, ac ennillodd bedwar cap dros Gymru - y cyntaf yn erbyn Lloegr yn 1973.

Cafodd gyfnodau hefyd gyda Crewe, Brighton, Charlton a Crystal Palace.