Cwpan Her Ewrop: Caerloyw 46-26 Gleision

Alex Cuthbert yn erbyn Caerloyw Image copyright Getty Images
Image caption Doedd dau gais Alex Cuthbert ddim yn ddigon i'r Gleision

Daeth taith Gleision Caerdydd yng Nghwpan Her Ewrop i ben yn rownd yr wyth olaf wrth iddyn nhw golli yng Nghaerloyw.

Mewn hanner cyntaf agos, fe sgoriodd Alex Cuthbert ddau gais i'r Gleision, gyda Tom Marshall a'r Cymro, Ross Moriarty, yn tirio i'r tîm cartref.

Ond doedd gan y tîm o'r brifddinas ddim ateb i rym Caerloyw yn yr ail hanner, gyda Jonny May, Marshall, Mark Atkinson a Henry Purdy yn sgorio.

Mae'r canlyniad yn golygu nad ydy'r Gleision wedi mynd yn bellach na'r wyth olaf yn y cystadlaethau Ewropeaidd ers 2010 - pan enillon nhw'r Cwpan Her.