Uwch Gynghrair Lloegr: Abertawe 0-0 Middlesborough

  • 2 Ebrill 2017
Gylfi Sigurdsson oedd bygythiad mwyaf yr Elyrch Image copyright Getty Images

Fe fethodd Abertawe â manteisio ar y cyfle i ailsefydlu'r bwlch rhyngddyn nhw a safleoedd y cwymp mewn gêm ddi-sgôr ar y Liberty.

Croesiadau a chiciau rhydd cyson Gylfi Sigurdsson oedd bygythiad mwya'r Elyrch, a daeth Alfie Mawson yn agos iawn gyda pheniad o gic gornel.

Ond er i Abertawe reoli'r chwarae, yr ymwelwyr gafodd gyfle gorau'r gêm gydag eiliau'n weddill - ond fe gyfeiriodd Rudy Gestede ei beniad tu hwnt i bostyn de Lukasz Fabianski.

Gyda buddugoliaeth i Hull ddydd Sadwrn, pwynt yn unig sydd rhwng Abertawe, yn yr 17eg safle, a'r safleoedd disgyn yn yr Uwch Gynghrair.