Cwpan Her Ewrop: Gweilch 21-25 Stade Francais

  • 2 Ebrill 2017
Gweilch v Stade Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y Gweilch yn herio Stade Francais yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

Mae'r Gweilch allan o Gwpan Her Ewrop ar ôl colli yn erbyn yn Stade Francais yng Nghaerdydd.

Dim ond un cais oedd yn yr hanner cyntaf, gyda Zurabi Zhvania yn tirio i'r tîm o Baris.

Mewn ail hanner bywiog, y Gweilch ddechreuodd orau, gyda chais Josh Matavesi a chic gosb Dan Biggar yn rhoi'r fantais iddyn nhw.

Ond daeth Stade yn ôl, gyda Raphael Lakafia a Julien Arias yn sgorio.

Llwyddodd cais hwyr Tyler Ardron roi pwysau ar Stade yn y munudau olaf, ond fe ddalion nhw 'mlaen i fynd drwodd i'r rownd gyn-derfynol.