Eich canllaw chi i etholiadau lleol Cymru 2017

  • 4 Ebrill 2017
etholiadau lleol

Blwyddyn ers Etholiad y Cynulliad a refferendwm yr UE, bydd etholwyr Cymru yn dychwelyd i'r blychau pleidleisio ar gyfer prawf cyntaf y pleidiau ers y bleidlais ar Brexit.

Ar ddydd Iau 4 Mai bydd ymgeiswyr ar hyd a lled y wlad yn wynebu'r etholwyr, gyda chynghorwyr yn cael eu hethol ym mhob un o'r 1,254 sedd yn 22 awdurdod lleol Cymru.

Gyda chefnogaeth Llafur yn isel yn y polau ledled y DU, fydd hyn yn golygu ergyd i nifer eu seddi? Ac a fydd Brexit yn gwneud niwed neu roi hwb i'r pleidiau?


Sefyllfa'r pleidiau

Llafur yw'r blaid sydd â'r nifer fwyaf o seddi yng Nghymru - 580 - ac felly sydd â'r mwyaf i'w golli.

Fe wnaethon nhw'n dda yn etholiadau 2012, gan ychwanegu 231 o seddi i'r cyfanswm blaenorol.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi rhybuddio y bydd etholiadau eleni'n anodd i'w blaid, ymgais o bosib i leihau disgwyliadau.

Ar hyn o bryd mae gan Lafur fwyafrif ar 10 cyngor ar draws de Cymru - o Abertawe i Gasnewydd - ac maen nhw hefyd yn arwain Bro Morgannwg a Sir y Fflint fel y blaid fwyaf.

Image copyright Getty Images
Image caption A yw Carwyn Jones yn ceisio lleihau'r disgwyliadau ar ei blaid?

Ond mae rhai cefnogwyr Llafur yn poeni y gallen nhw golli eu gafael ar ardaloedd fel Blaenau Gwent, ble ddaeth y blaid o fewn trwch blewyn i golli yn Etholiad y Cynulliad 2016.

Allen nhw hefyd golli rheolaeth ar Ben-y-bont - cyngor lleol Mr Jones - os yw'r Ceidwadwyr yn ennill seddi ac yn dileu mwyafrif Llafur?

Ac os ydyn nhw'n cael noson wael tu hwnt, allai Llafur hefyd golli seddi yn y gogledd?

Plaid Cymru sydd â'r ail nifer uchaf o gynghorwyr - 170.

Cafodd y blaid noson wael yn 2012 pan gollon nhw arweinydd yng Nghaerffili wrth i Lafur ennill tir.

Bydd y blaid - sydd â mwyafrif ar Gyngor Gwynedd - hefyd yn ceisio cipio rheolaeth yn Sir Gâr a Cheredigion, sydd yn cael eu rhedeg ganddynt fel rhan o weinyddiaeth leiafrifol ar hyn o bryd.

Byd Plaid hefyd yn ceisio ennill tir yng nghymoedd y de.

Image caption Bydd Leanne Wood yn gobeithio y gall ei phlaid ennill tir yng nghymoedd y de

Dyw'r blaid ddim am drafod ei thargedau yn gyhoeddus, ond fe allai wneud yn dda yn Rhondda Cynon Taf - ble enillodd yr arweinydd Leanne Wood sedd yn Etholiad y Cynulliad llynedd.

Bydd Plaid hefyd yn brwydro'n galed i geisio sicrhau mwyafrif ar Ynys Môn, ble maen nhw bedair sedd yn fyr ar hyn o bryd.

Allen nhw hefyd adennill cefnogaeth yng Nghaerffili, ble maen nhw wedi bod mewn grym yn y gorffennol?

Y Ceidwadwyr Cymreig sydd yn drydydd ar hyn o bryd gyda 104 sedd, ac fe fyddan nhw'n gobeithio elwa o'r ffaith bod Theresa May yn gwneud yn dda yn y polau.

Gallai'r blaid - sydd yn rhedeg Sir Fynwy gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol - wneud yn dda yn Abertawe a Bro Morgannwg, sef cynghorau lleol arweinydd y blaid yng Nghymru Andrew RT Davies, ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.

Image caption Allai'r Ceidwadwyr ennill tir ar stepen ddrws Andrew RT Davies?

Byddai unrhyw enillion yn debygol o fod ar draul Llafur.

Roedd Casnewydd yn cael ei arwain gan y Ceidwadwyr fel gweinyddiaeth leiafrifol gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2008 a 2012, a does dim dwywaith y bydd y blaid yn teimlo y gallan nhw gymryd cam ymlaen yn y ddinas unwaith eto.

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru oedd fwyaf ar eu colled yn etholiad 2012. Collodd y blaid 66 sedd, gan eu gadael gyda 75 i'w hamddiffyn ym mis Mai.

Mae bod ar yr ochr a gollodd refferendwm yr UE wedi rhoi ail wynt i'w chefnogwyr fodd bynnag, ac fe fyddan nhw'n gobeithio ennill tir yng nghanol Caerdydd ble roedd ganddyn nhw AS nes 2015.

Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol yr arweinyddiaeth yng Nghaerdydd yn yr etholiadau lleol diwethaf - ardal bleidleisiodd i Aros yn y refferendwm.

Allai'r blaid hefyd ennill rhywfaint o seddi yn Abertawe?

Image caption Mark Williams yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bellach

Mae'n synnu rhai cymaint o gynghorwyr annibynnol sydd ar awdurdodau lleol. Byddan nhw'n amddiffyn nifer uchel o seddi - 325.

Maen nhw'n bresenoldeb sylweddol yn Sir y Fflint, Ceredigion, Wrecsam, Powys, Sir Ddinbych, Conwy, Sir Gâr, Ynys Môn, Sir Benfro, Sir Fynwy a Gwynedd.

Cafodd ACau cyntaf UKIP eu hethol yn 2016, ond y broblem fwyaf yw trefniadau ar lefel leol. Honnodd cyn-gadeirydd y blaid yng Nghymru, Chris Smart, fod y blaid "bron yn datod".

Nid oes ganddyn nhw gynghorwyr yng Nghymru ar hyn o bryd, felly byddai unrhyw seddi gaiff eu hennill yn hwb.

Os oes cartref naturiol i UKIP yng Nghymru efallai mai'r de ddwyrain yw hwnnw, ble bydd y blaid yn ceisio adeiladu ar ei pherfformiad yn yr etholiadau cyffredinol a Chynulliad mewn ardaloedd traddodiadol Llafur fel Torfaen a Chasnewydd.


Beth am Brexit?

Y cwestiwn mawr yn yr etholiad yma yw a fydd canlyniad refferendwm yr UE yn cael unrhyw effaith?

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio denu pleidleiswyr i'w corlan nhw wedi iddyn nhw ymgyrchu o blaid Aros.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd i gryfhau ei phresenoldeb yng nghymoedd y de, ond allai ei safbwynt o blaid yr UE niweidio'r ymdrechion hynny mewn ardaloedd bleidleisiodd yn gryf o blaid Gadael?

Bydd yr un cwestiwn yn wynebu Llafur, sydd yn amddiffyn sawl cyngor yn yr ardaloedd hynny.

Ond gallai'r pleidiau yna gael hwb o drafferthion UKIP, a gwendid traddodiadol y Ceidwadwyr yn y cadarnleoedd Llafur.


Image caption Fydd rhai cynghorau ddim yn cyfrif y canlyniadau nes fore Gwener

Sut fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi?

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau, ond nid pob un, yn cyfrif dros nos. Ni fydd naw o'r 22 yn dechrau cyfrif yn llawn nes y diwrnod canlynol.

Cyfrif dros nos:

  • Merthyr Tudful
  • Blaenau Gwent
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam
  • Sir Fynwy
  • Pen-y-bont
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Abertawe
  • Ceredigion
  • Torfaen
  • Casnewydd
  • Caerdydd
  • Bro Morgannwg

Cyfrif dydd Gwener:

  • Caerffili
  • Sir Ddinbych
  • Conwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Rhondda Cynon Taf
  • Powys
  • Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Gwynedd

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae cynghorau yng Nghymru yn rhedeg gwasanaethau fel ysgolion, llyfrgelloedd, casglu gwastraff a gofalu am ffyrdd

Sut fydd yr etholiad yn gweithio, a beth mae cynghorau'n ei wneud?

Er bod deddfau yn cael eu gwneud yn San Steffan a'r Cynulliad, y cynghorau sydd yn rhedeg gwasanaethau ar lefel leol.

Dydyn nhw ddim yn rheoli popeth, ond mae'r pethau maen nhw'n gyfrifol amdano yn cynnwys:

  • gwasanaethau gwastraff
  • ysgolion
  • gofal cymdeithasol
  • llyfrgelloedd
  • gwasanaethau tai
  • cynllunio

Maen nhw hefyd yn gosod cyfraddau treth cyngor.

Yn wahanol i Etholiad y Cynulliad, mae cynghorwyr i gyd yn cael eu hethol ar sail cyntaf i'r felin.

Mae etholwyr mewn wardiau aml-aelod yn cael y cyfle fodd bynnag i ddewis mwy nag un cynghorydd.


I'r dyddiadur

Os oes angen i chi gofrestru i bleidleisio mae'n rhaid gwneud hynny erbyn dydd Iau 13 Ebrill. Gallwch wneud hynny ar wefan www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Bydd gennym ni syniad o bwy fydd yn sefyll ble erbyn dydd Mercher 5 Ebrill fan hwyraf.

Mae gan ymgeiswyr nes y diwrnod hwnnw i gyflwyno eu papurau enwebu.

Os ydych chi eisiau pleidlais bost a heb gael un o'r blaen, mae'n rhaid gwneud cais erbyn 18 Ebrill.

Bydd angen i unrhyw geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy gael eu gwneud erbyn 25 Ebrill.

Straeon perthnasol