Ymchwiliad pellach i eilyddio Ffrainc yn y Chwe Gwlad

Rabah Slimani Image copyright Getty Images
Image caption Daeth Rabah Slimani (canol) i ffwrdd o'r cae ar ôl 55 munud cyn dychwelyd wedi 81 munud

Bydd penderfyniad tîm rygbi Ffrainc i roi Rabah Slimani ar y cae yn ystod y gêm yn erbyn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael ei ymchwilio ymhellach.

Roedd Slimani eisoes wedi gadael y cae cyn yr 80fed munud, ond fe wnaeth y dyfarnwr adael iddo ddychwelyd i gymryd lle'r prop Uini Atonio ar ôl i feddyg tîm Ffrainc ddweud fod angen asesiad meddygol arno.

Ar ôl i Slimani, sy'n cael ei gydnabod fel chwaraewr cryf yn y sgrym, ddychwelyd cafwyd sawl sgrym ac fe enillodd Ffrainc yn y diwedd wedi 100 munud o chwarae.

Bydd grŵp adolygu'r gystadleuaeth nawr yn edrych ar y mater.

Ar ddiwedd y gêm awgrymodd rheolwr dros dro Cymru, Rob Howley bod Ffrainc wedi dwyn anfri ar y gêm.