Gohirio cwest wedi honiadau bod dyn wedi'i fygwth

  • 4 Ebrill 2017
Crwner Rhuthun Image copyright Google
Image caption Roedd y cwest yn cael ei gynnal yn Swyddfa Crwner Rhuthun

Mae cwest wedi cael ei ohirio yn dilyn honiadau bod dyn wedi derbyn bygythiadau am ddyled cyffuriau cyn iddo gael ei ganfod yn farw.

Cafodd corff Austin Bellew, 41 oed o Landudno, ei ganfod yn y môr oddi ar arfordir Hoylake, Cilgwri, ym mis Chwefror.

Dywedodd ei chwaer, Sandra, wrth y gwrandawiad bod heddweision wedi bod yn "ddiystyriol" o'r honiad bod Mr Bellew wedi cael ei fygwth, ac nad oedden nhw wedi ymchwilio i'r mater.

Cafodd y cwest yn Rhuthun ei ohirio, ac mae gan Heddlu Gogledd Cymru 28 diwrnod i ddarparu datganiad.

Roedd Mr Bellew wedi bod ar goll ers mis pan gafodd ei gorff ei ganfod chwe milltir o'r arfordir gan bobl oedd ar gwch.

Dywedodd ei chwaer wrth y cwest ddydd Mawrth bod "gormod o gwestiynau am sut y bu iddo fynd i'r môr", gyda'r teulu'n codi pryderon am "ymchwiliad annigonol gan yr heddlu".