Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth yn Wrecsam

  • 4 Ebrill 2017
Nicholas Anthony Churton
Image caption Cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton yn ei gartref ar 27 Mawrth

Mae dyn wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo ar gyhuddiad o lofruddio Nicholas Churton yn ei gartref yn Wrecsam fis diwethaf.

Mae Jordan Davidson, 27 oed, o Wrecsam, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ladrata, ymosod ar blismon ac o geisio achosi niwed corfforol difrifol i blismon.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos eto ym mis Mehefin.

Mae disgwyl i'r achos llawn yn ei erbyn gael ei gynnal ym mis Medi.