Aberdâr ar flaen y gâd

  • 6 Mehefin 2017
Rhifyn o'r papur 'Tarian y Gweithiwr' o 1875 Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Rhifyn o'r papur 'Tarian y Gweithiwr' o 1875

Gyda dyfodiad yr oes ddigidol, mae llawer o sôn am dranc ein papurau newydd ac yn arbennig gyda phroblemau diweddar papur newydd Y Cymro, y pwysau sydd ar y wasg Gymraeg a Chymreig i oroesi.

• Gwefan Papurau Newydd Cymru Arlein y Llyfrgell Genedlaethol

Ond mae nifer fawr o bapurau Cymraeg eu hiaith wedi diflannu'n llwyr, a rhai o'r rheiny wedi bod yn allweddol yn sefydlu syniadau chwyldroadol a heriol, yn ogystal â hawliau gweithwyr adeg y chwyldro diwydiannol.

Dylanwad y Gymraeg?

Roedd dyfodiad y diwydiannau glo a haearn yng nghymoedd de Cymru yn gyfrifol am ddatblygiad nid yn unig iaith y papurau newydd, ond hefyd eu natur ceidwadol.

Argraffwyd papur Y Gwron Cymreig rhwng 1838 a 1839 gan Josiah Thomas Jones.

Roedd Josiah Thomas Jones yn weinidog Annibynnol, ac yn un o arloeswyr y wasg yn Aberdâr.

Cafodd ei erlid o dref Merthyr Tudful gan y meistri haearn oedd yn ofni ei osgo radical yn ei bapur, y Merthyr and Cardiff Chronicle, ac aeth i fyw a gweithio yng Nghaerfyrddin, lle sefydlodd bapur radical arall Y Gwron Cymreig, ond y tro yma, yn Gymraeg.

Yn 1854, symudodd ef a'i bapur i Aberdâr, tref a oedd yn datblygu'n ganolfan prysur ym maes glo'r de.

Roedd y papur yn gymysgedd o newyddion tramor a chartref yn ogystal ag adroddiadau seneddol. Roedd ei osgo'n amlwg wrth-Doriaïdd a gwrth-Eglwysig, gan ddewis ochri â'r gweithwyr yn ddieithriad yn hytrach nag â'r meistri glo a haearn.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Papur wythnosol 'Y Gwladgarwr ' oedd yn radical ei natur ond yn cael ei feirniadu am roi gormod o ofod i Eisteddfodau ac ati

Gwenyn at bot mêl

Gwnaeth hyn ddenu cyhoeddwyr eraill ac ymddangosodd Y Gwladgarwr (Aberdâr 1858) fel wythnosolyn. Roedd hwn hefyd yn gyhoeddiad radical fel Y Gwron, ond cafodd ei feirniadu gan rai am roi gormod o ofod i eisteddfodau a gweithgareddau llenyddol.

Ymatebodd Josiah Thomas Jones drwy sefydlu dau gyhoeddiad arall yn y dref, sef Y Gweithiwr yn 1858 a unodd wedyn â'r Gwron, a phapur Saesneg The Aberdare Times yn 1861.

Ond mae'n debyg mai'r mwyaf dylanwadol o blith papurau newydd Cymraeg de Cymru oedd Tarian y Gweithiwr a'i apêl at lowyr a gweithwyr tun yr ardal, a ymddangosodd am y tro cyntaf yn 1875 ac a barhaodd hyd 1931. (Newidodd ei enw i Y Darian yn 1914.)

Cyhoeddwyd Tarian Y Gweithiwr yn Aberdâr o 1875 hyd 1934 , ac Edward Davies, Rhymni a John Morgan Jones oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r erthyglau golygyddol i ddechrau.

Roedd yn bapur gyda safbwynt golygyddol radicalaidd, oedd yn ei anterth yn gwerthu 15,000 o gopïau. Ond roedd yn adnabyddus fel cyfrwng llenyddol ac addysgol hefyd, ac roedd cyfranwyr yr 20fed ganrif yn cynnwys John Morris-Jones a Saunders Lewis.

Erbyn hyn, mae'r papurau uchod i gyd wedi diflannu - pa rai eraill fydd yn wynebu'r un dynged yn y dyfodol agos ys gwn i?


Mae'r papurau hyn ar gael i'w darllen am ddim ar wefan Papurau Newydd Cymru Arlein gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Sillafu anarferol y cyfnod i'w weld yma...

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.