Tân mawr mewn garej yn Sir Conwy

  • 4 Ebrill 2017
tan Image copyright Twitter

Mae diffoddwyr yn mynd i'r afael â thân mawr mewn garej yn Sir Conwy.

Fe gafodd criwiau eu galw i stad ddiwydiannol ar Rodfa Llanelwy, Bae Cinmel, am tua 17:45 ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y gyffordd rhwng Ffordd y Foryd a Rhodfa Cader ar gau ym Mharc Busnes Tir Llwyd.

Mae chwech o griwiau tân o'r Rhyl, Prestatyn, Bae Colwyn ac Abergele yn bresennol.

Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Ry'n ni'n gofyn i'r cyhoedd osgoi'r ardal os oedd modd.

"Mae nifer o adeiladau yn yr ardal wedi cael eu gwagio rhag ofn gan fod mwg trwchus o gwmpas y lle.

"Mae disgwyl i'r gwasanaethau brys aros ar y safle am beth amser er mwyn delio gyda'r sefyllfa."