Y Bencampwriaeth: Barnsley 0-0 Caerdydd

caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Gorffennodd y gêm rhwng Caerdydd a Barnsley yn ddi-sgôr, wrth i'r Adar Gleision deithio i Dde Swydd Efrog nos Fawrth.

Roedd y cyfleoedd yn brin i'r ddau dîm, sy'n parhau i fod yng nghanol y tabl, ond fe aeth Barnsley yn agos at gipio'r triphwynt ar ambell i achlysur.

Mae Barnsley bellach wedi mynd wyth gêm o'r bron heb ennill, ac felly yn parhau yn y 13eg safle - un pwynt uwch ben Caerdydd.

Mae'r Adar Gleision yn aros yn 14eg yn y tabl ar ôl ennill dim ond un o'u saith gêm ddiwethaf, a dydyn nhw heb ennill oddi cartref ers 14 Chwefror.