Llofruddiaeth Bangor: Dyn lleol yn y llys

Henry Ayabowei
Image caption Cafodd Henry Ayabowei ei ganfod gan yr heddlu ychydig cyn 02:00 fore Sadwrn

Mae dyn 26 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio Henry Ayabowei ym Mangor dros y penwythnos.

Cafodd Kieron Roberts o Fangor ei gadw yn y ddalfa gan Ynadon Llandudno, i ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon fore Iau.

Fe gafodd Mr Ayabowei, 27, ei ganfod gan yr heddlu y tu allan i glwb nos Peep ychydig cyn 02:00 fore Sadwrn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, cyn cael ei drosglwyddo i Stoke, lle bu farw fore Sul.

Roedd Mr Ayabowei, oedd yn cael ei adnabod fel Henry Esin, yn dod o ardal Llangefni ac yn dad i ddau o blant.

Image caption Bydd Kieron Roberts yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon fore Iau