Pennaeth BBC yn galw am berthynas 'symlach' ag S4C

Rhodri Talfan a Sian Gwynedd
Image caption Bu Pennaeth BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies a Phennaeth Cynhyrchu Cynnwys, Siân Gwynedd, yn rhoi tystiolaeth i ACau

Mae pennaeth BBC Cymru wedi galw am berthynas "symlach" gydag S4C yn y dyfodol.

Roedd Rhodri Talfan Davies o flaen Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, sy'n cynnal ymchwiliad i ddyfodol y sianel Gymraeg.

Ers 2013 mae'r mwyafrif o gyllideb S4C wedi dod o ffi'r drwydded y BBC, sydd bellach yn cyfateb i £74.5m y flwyddyn.

Dwedodd Mr Davies bod cytundebau presennol rhwng y darlledwyr yn "gymhleth", ac roedd y perthynas da erbyn hyn yn golygu nad oedd angen cael cynrychiolydd o'r BBC ar fwrdd llywodraethu S4C yn y dyfodol.

'Partneriaeth sy'n gweithio'

Wrth drafod cytundeb newydd gydag S4C, dywedodd: "Rwy'n credu bydd hi'n ysgafnach na'r hyn ry'n ni wedi gweld hyd heddiw, ac rwy'n credu bod hynny yn adlewyrchu aeddfedrwydd y berthynas sydd wedi'i sefydlu rhwng y ddau sefydliad."

Ychwanegodd bod y darlledwyr yn mwynhau "partneriaeth sy'n gweithio" ac fe rybuddiodd yn erbyn "ceisio trwsio" hynny.

Bydd partneriaeth ffurfiol newydd rhwng y BBC ac S4C yn cael ei gytuno dros y misoedd nesaf, yn dilyn sefydliad siarter newydd y BBC a strwythur llywodraethu newydd.

Mae'r BBC wedi rhewi cyllideb S4C tan 2022, gan ddilyn setliad ffi'r drwydded sydd yn cash-fflat. Mae S4C hefyd yn derbyn £6.8m gan Lywodraeth y DU.

Image copyright PCDDS
Image caption Dywedodd Rhodri Talfan Davies bod y BBC yn gobeithio symud staff o swyddfa Caerfyrddin i ganolfan newydd S4C, Yr Egin

Sefyllfa ariannol "heriol" sy'n wynebu'r darlledwyr yn ôl Mr Davies, ac fe fydd cyrraedd cynulleidfaoedd y dyfodol yn golygu gwneud penderfyniadau anodd.

"Beth bynnag ydy setliad ariannol S4C i'r dyfodol, beth bynnag ydy setliad y BBC, mae 'na gwestiynau uniongyrchol o flaenoriaethu, a phenderfynu ym mha fathau o arlwy, ar ba lwyfannau, 'da ni eisiau ffocysu.

"Does 'da ni ddim yr adnodd i 'neud popeth i bawb ar bob llwyfan, a dyna ydy'r her i unrhyw sefydliad neu ddarlledwr cyhoeddus ar hyn o bryd."

Yn dilyn cwestiwn am lwyddiant cyd-gynyrchiadau eraill fel Y Gwyll/Hinterland, dwedodd Mr Davies bod cynyrchiadau pellach ar y gweill.

"Rydyn ni ar fin cyhoeddi dau gyd-gynhyrchiad mawr gydag S4C, y fath o brosiectau fydd nid yn unig yn gallu creu argraff fawr yng Nghymru, ond sydd gyda'r potensial i gyrraedd cynulleidfa ehangach yn yr un modd a Hinterland."

Staff BBC a'r Egin

Yn ystod yr un gwrandawiad, fe gadarnhaodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru, Siân Gwynedd, bod y BBC yn gobeithio symud ei staff yng Nghaerfyrddin i bencadlys newydd S4C yn y dref.

"Mae gennym ni tua 15 o staff yn swyddfa'r BBC yng Nghaerfyrddin, felly mi rydyn ni'n ystyried y posibilrwydd, yn ariannol ac yn weithredol, o symud y staff yma i ganolfan Yr Egin yn Sir Gâr," meddai.

"Mae'r trafodaethau hynny yn parhau, ac rydyn ni'n gobeithio cyrraedd penderfyniad yn y misoedd nesaf."

Ychwanegodd Rhodri Talfan Davies: "Rydyn ni eisiau symud, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr ochr ariannol yn gweithio i ni."

Image caption Bydd cytundeb cynhyrchu Pobol y Cwm yn cael ei gynnig i gwmniau allanol yn y dyfodol

Roedd Mr Davies wedi cadarnhau y bydd rhaid cynnig y cytundeb i gynhyrchu Pobol y Cwm i'r diwydiant cynhyrchu annibynnol rhywbryd yn y dyfodol, gan fod adran ddrama BBC Cymru nawr yn rhan o gorff masnachol newydd BBC Studios.

"Mae Pobol y Cwm, fel popeth arall ym Mhorth y Rhath [stiwdios drama BBC Cymru] wedi symud i mewn i uned BBC Studios.

"Felly'r oblygiadau hynny o dan y siarter yw mi fydd angen i ni gystadlu Pobol y Cwm ar ryw adeg yn y dyfodol, a cyn diwedd y siarter. Ac felly 'da ni yn trafod oblygiadau hynny ar hyn o bryd.

"Ond mae'r siarter yn glir bod unrhyw brands, neu unrhyw rhaglenni sydd wedi symud o wasanaeth cyhoeddus y BBC i mewn i'r uned newydd yma, Studios, yn gorfod cael eu cystadlu."