Abertawe 1-3 Tottenham Hotspur

  • 5 Ebrill 2017
Abertawe Tottenham Image copyright Getty Images
Image caption Son Heung-min yn rhwydo'r bêl yn yr amser ychwanegol

Roedd yna dorcalon i gefnogwyr Abertawe ar y Liberty nos Fercher wrth i Tottenham Hotspur frwydro'n ôl i sicrhau buddugoliaeth, gyda thair gôl ym munudau ola'r gêm.

Fe aeth yr Elyrch ar y blaen gyda gôl gan Wayne Routledge wedi 11 munud, ac fe lwyddon nhw i gadw'r fantais am ran helaeth o'r chwarae.

Ond, yn yr 88fed munud, llwyddodd Dele Alli i dorri drwy'r amddiffyn i sgorio i Spurs, cyn i Son Heung-min a Christian Eriksen ychwanegu dwy gôl yn yr amser am anafiadau.

Mae'r canlyniad yn ergyd arall i Abertawe, sydd ddim wedi ennill ers pedair gêm.

West Ham fydd eu gwrthwynebwyr nesaf, a hynny oddi cartref ddydd Sadwrn.