Jessica Fishlock yn ennill ei chanfed cap rhyngwladol

Jess Fishlock Image copyright Getty Images
Image caption Jessica Fishlock yw'r person cyntaf o Gymru i ennill 100 cap pêl-droed rhyngwladol

Daeth Jessica Fishlock y person cyntaf i ennill 100 o gapiau pêl-droed rhyngwladol i Gymru yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon ddydd Mercher.

Yn ogystal ag ennill ei chanfed cap fe sgoriodd Fishlock gôl gampus i Gymru ar ôl 39 munud i sicrhau buddugoliaeth o 3-1 i'r tîm cartref mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerffili.

Roedd y gêm baratoadol yn cael ei chynnal cyn i Gymru ddarganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019 pan fydd yr enwau yn dod allan o'r het fis Mai.

Mae Fishlock sydd yn 30 oed yn chwarae i dîm Melbourne City ble mae hi hefyd wedi bod yn hyfforddi'r tîm tra ar fenthyg o Seattle Reign.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn y Swistir yn 2006 cyn dod yn gapten ar ei gwlad yn ddiweddarach.

'Breuddwyd'

Cyn ennill ei chanfed cap dywedodd Fishlock: "Mae'n freuddwyd i mi ddod y person cyntaf erioed i ennill 100 o gapiau i Gymru.

"Dwi wrth fy modd yn chwarae dros fy ngwlad, mae'n golygu llawer i mi yn enwedig gyda'r chwaraewyr sydd yn y garfan nawr, gan mai nhw yw fy ffrindiau agosaf hefyd," meddai.

Yn dilyn penodiad Jayne Ludlow fel prif hyfforddwraig tîm merched Cymru, doedd Fishlock ddim yn rhan o'i chynlluniau, ond cwta ddeufis ar ôl cael ei gollwng o'r garfan fe gafodd hi ei galw'n ôl i gynrychioli ei gwlad.

'Gwych'

O ran clybiau, ymunodd Fishlock gyda thîm merched Caerdydd yn saith oed, cyn gwneud ei hymddangosiad cyntaf i'r tîm merched llawn yn 16 oed.

Yn dilyn nifer o goliau o ganol cae fe ymunodd Fishlock i chwarae i AZ Alkmaar yn yr Iseldiroedd gan ennill y gynghrair merched yno dwywaith yn olynol.

Mae Fishlock hefyd wedi chwarae i Academi Bryste, Melbourne Victory, Galsgow City, FCC Frankfurt a Seattle Reign mewn gyrfa lewyrchus.

Dywedodd cyn brîf hyfforddwr merched Cymru Jarmo Matikainen am lwyddiant Fishlock: "Yn ystod fy nghyfnod i roedd Jess wastad yn dangos gwaith tîm ac agwedd dda tuag at ei gwaith, mae hi'n wych ei gweld hi'n ennill 100 o gapiau," meddai.