Achos llofruddiaeth: Cadw dyn lleol yn y ddalfa

  • 6 Ebrill 2017
Henry Ayabowei
Image caption Cafodd Henry Ayabowei ei ganfod gan yr heddlu ychydig cyn 02:00 fore Sadwrn

Mae dyn 26 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon wedi'i gyhuddo o lofruddio Henry Ayabowei ym Mangor dros y penwythnos.

Cafodd Kieren Roberts o ardal Maesgeirchen ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf.

Fe gafodd Mr Ayabowei, 27, ei ganfod gan yr heddlu y tu allan i glwb nos Peep ychydig cyn 02:00 fore Sadwrn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, cyn cael ei drosglwyddo i Stoke, lle bu farw fore Sul.

Image caption Mae disgwyl i Kieren Roberts gyflwyno ple yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 29 Mehefin

Roedd Mr Ayabowei, oedd yn cael ei adnabod fel Henry Esin, yn dod o ardal Llangefni ac yn dad i ddau o blant.

Mae disgwyl i Mr Roberts gyflwyno ple yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 29 Mehefin, a'r bwriad yw dechrau'r achos llawn ar 30 Hydref.