Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â lori ailgylchu

  • 6 Ebrill 2017
A40 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng Manordeilo a Llandeilo

Mae dynes wedi marw a dyn wedi'i arestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori ailgylchu a char yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffoedd yr A40 rhwng Manordeilo a Llandeilo am tua 10:30 fore Iau.

Bu farw'r ddynes, oedd yn gyrru car Ford Fiesta llwyd, yn dilyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod dyn 28 oed wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion neu unrhyw un oedd yn gyrru ar hyd y ffordd ar amser y digwyddiad i gysylltu â nhw, drwy ffonio 101.