Taith newydd y Pasg

brynach Image copyright Deborah Tilley
Image caption Eglwys Sant Brynach yn Nanhyfer

Llecynnau i'r enaid gael llonydd. Dyna un o'r elfennau sy'n cael eu cynnig gan brosiect llwybrau Meini a'r Llannau yn y de-orllewin. Cafodd y prosiect ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl leol a thwristiaid yn Sir Benfro ymweld a rhai o hen lwybrau'r pererinion a rhai o addoldai'r ardal.

Bydd gwasanaeth arbennig ar 7 Ebrill yn Eglwys Nanhyfer i groesawu'r llwybr diweddaraf.

Anne Eastham, un o sylfaenwyr y prosiect sy'n sôn rhagor am y llwybrau wrth BBC Cymru Fyw.


Bron i chwarter canrif yn ôl roedd yna bryder y byddai llawer o'r adeiladau eglwysig yn y de-orllewin yn gorfod cau gan fod cynulleidfaoedd yn heneiddio a niferoedd yr addolwyr yn lleihau.

Felly, roeddem ni'n teimlo bod angen gwneud mwy i dynnu sylw pobl at y perlau pensaernïol ac ysbrydol a oedd yn bodoli lar hyd a lled hen sir Dyfed.

Image copyright Siôn Brynach
Image caption Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Mae pawb yn gyfarwydd â'r Eglwys Gadeiriol enwog yn Nhyddewi - sydd yn denu dros chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn - ond mae 'na eglwysi a chapeli eraill o bwys yn y rhan hon o Gymru.

Bellach - dros ugain mlynedd yn ddiweddarach - mae 'na chwech o lwybrau wedi eu sefydlu gan brosiect Meini a Llannau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sy'n tywys ymwelwyr i rai o adeiladau eglwysig mwyaf nodedig yr ardaloedd amrywiol.

Image copyright Anne Eastham
Image caption Hen Eglwys Dewi, Manordeifi

Y diweddaraf o'r rhain yw llwybr Cemais, sy'n cychwyn yn Manordeifi yn nyffryn Teifi. Caiff ymwelwyr eu tywys wedyn trwy Gilgerran a Llandudoch - a safle'r Abaty ysblennydd.

Image caption Abaty Llandudoch

Mae'r llwybr wedyn yn mynd trwy Drewyddel, a'r Beifil sydd ag eglwys hynafol â chorau caedig hynod a phulpud.

Image copyright Ceridwen/Geograph
Image caption Eglwys y Beifil

Ond mae Eglwys St Brynach Nanhyfer yn nodedig hefyd gyda'i chroes Geltaidd anferth yn y fynwent, a'r ysgrifen Ogam yn yr eglwys. Wrth gwrs, Gwyddel oedd Brynach, felly dyw hi ddim syndod o gwbl bod ysgrifen Wyddelig hynafol i'w gweld yn yr eglwys. Mae'n dangos hefyd pa mor agos oedd y cysylltiadau rhwng y cenhedloedd o gwmpas y môr Celtaidd yn ystod oes y seintiau 1500 o flynyddoedd yn ôl.

Image copyright Siôn Brynach
Image caption Croes Nanhyfer

Mae'r llwybr yn gorffen yng Nghwm yr Eglwys. Yno mae adfeilion yr ail Eglwys sydd wedi ei chyflwyno i Sant Brynach ar y daith hon. Yng Nghwm yr Eglwys cafodd rhannau o'r eglwys eu dinistrio mewn stormydd difrifol yn 1850 a 1851. Cafodd y to ei sgubo i ffwrdd ym 1859, yn y storm a ddrylliodd y Royal Charter ym Moelfre, a bu'n adfail byth oddi ar hynny.

Mae'n profiad ni dros yr ugain mlynedd diwethaf yn dangos bod pobl yn aml yn galw i mewn i'r eglwysi heb wybod yn iawn pam eu bod nhw'n gwneud hynny. Ond yn amlach 'na heb maen nhw'n dweud eu bod yn mynd â rhywbeth oddi yno gyda nhw - rhyw deimlad o lonyddwch - felly mae'r adeiladau yma yn parhau i weithredu fel mynegbyst yr Efengyl ac yn lle i'r enaid gael llonydd.

Image caption Adfeilion Eglwys Sant Brynach, Cwm yr Eglwys