S4C: Angen arian i osgoi bod yn 'wasanaeth eilradd'

Reception at S4C Image copyright S4C

Mae S4C yn dweud ei bod angen miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad ychwanegol er mwyn parhau i fod yn berthnasol i'w chynulleidfa.

Mae'r sianel wedi cyhoeddi dogfen sy'n amlinellu ei gweledigaeth am y ddegawd nesaf, a hynny cyn adolygiad annibynnol o'i rôl a'i chyfrifoldebau.

Mae S4C yn ddibynnol iawn ar arian cyhoeddus, gyda £74.5m yn dod o ffi drwydded y BBC a £6.8m gan lywodraeth y DU.

Yn ôl y sianel mae newidiadau yn angenrheidiol er mwyn gwella'i chynnyrch ar blatfformau newydd, ac er mwyn denu mwy o arian masnachol.

Gwasanaeth eilradd?

Dywedodd y prif weithredwr Ian Jones bod amryw doriadau ariannol yn golygu bod cyllideb y sianel wedi cwtogi o draean ers 2010, ac y byddai cynnydd mewn incwm a maes gorchwyl ehangach yn rhoi mwy o sicrwydd yn y tymor hir.

Dywedodd hefyd fod angen arian ar gyfer rhaglenni er mwyn osgoi troi'n "wasanaeth eilradd", ond ni soniodd am swm penodol.

Ychwanegodd bod yn rhaid i S4C ddilyn cynulleidfa oedd bellach yn gwylio cynnyrch teledu ar ddyfeisiau digidol.

"Does dim dewis gyda ni," meddai, "rhaid i ni dargedu gwylwyr ar y platfform o'u dewis nhw. Mae hynny'n costio... felly rhaid i ni gael digon o gyllid i wneud hynny.

"Os na fedrwn ni, yna fe allai S4C droi'n wasanaeth eilradd yn y dyfodol."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, yn dweud bod y sianel angen arian digonol i'r dyfodol

Mae disgwyl i adolygiad annibynnol o S4C, a gomisiynwyd gan lywodraeth y DU, gael ei gynnal erbyn yr hydref.

Mae gweledigaeth S4C, mewn dogfen o'r enw Gwthio'r Ffiniau, yn galw am i'w chynnyrch fod ar gael ar bob platfform newydd, ac i ail-ddiffinio'i chyfrifoldeb o fod yn sianel deledu i fod yn gwmni cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Dadl y sianel yw y byddai'r newidiadau yma yn rhoi mwy o ryddid iddi fanteisio ar gyfleoedd masnachol ac i wneud rhaglenni, gan ei bod ar hyn o bryd yn gweithio i faes gorchwyl a luniwyd pan sefydlwyd y sianel yn 1982.

Mae'n dweud hefyd ei bod am greu cynnwys sydd "yn fwy perthnasol, cystadleuol am amrywiol", ac i gynyddu buddion "economaidd, ieithyddol ac addysgol" ei gwaith.

Er mwyn gwneud hyn, mae S4C yn dweud ei bod angen £6m i sicrhau bod rhaglenni ar gael ar bob dyfais a phlatfform digidol. Mae'n dweud hefyd bod angen gwario mwy ar raglenni, er nad yw'n sôn am gost benodol.

Dyheadau S4C: Y ddegawd nesaf

  • £6m i wneud S4C ar gael ar bob dyfais;
  • Mwy o arian ar gyfer rhaglenni;
  • Ailddiffinio'i maes gorchwyl;
  • Cyfleoedd masnachol newydd;
  • Newid ei strwythur llywodraethol;
  • Mwy o ddylanwad ar addysg a thwf yr iaith Gymraeg.

Mae cangen fasnachol y sianel ar hyn o bryd yn creu incwm o tua £2m y flwyddyn, ac mae hynny'n cael ei ail-fuddsoddi yn y sianel.

Ond mae S4C yn dadlau y gallai gael "mwy o werth am arian" o frandiau yn y dyfodol pe bai cyfyngiadau'n cael eu codi, ac yn cadarnhau ei bod yn ystyried cynlluniau ar gyfer Fferm Cyw yn seiliedig ar y gyfres o raglenni plant.

Mae'r ddogfen hefyd yn trafod materion llywodraethol y sianel i'r dyfodol, gan gynnwys cynnig i ddileu cynrychiolydd a enwebwyd gan y BBC o Awdurdod S4C.

Ymateb

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru), Iestyn Garlick: "Rydyn ni'n croesawu datganiad S4C o'i gweledigaeth, ac yn cytuno bod gofyn i'r ddarpariaeth ehangu'r tu hwnt i'r gwasanaeth teledu craidd i fod yn bresennol ar lwyfannau eraill er mwyn diwallu anghenion cyfoes.

"Mae'n gwbl eglur i'r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru fod angen cynyddu lefel ariannu S4C hyd nes y gall sicrhau cyfradd uwch o gynnwys gwreiddiol.

"Rydyn ni'n awyddus i gydweithio gydag S4C i wneud y defnydd gorau o'r cynnyrch hwnnw yn rhyngwladol, gan barhau i gynnal yr egwyddor gyfreithiol fod hawliau eiddo deallusol yn perthyn i'r cynhyrchydd.

"Bellach, rydyn ni'n gobeithio y bydd llywodraeth y DU yn parhau â'r adolygiad o S4C cyn bo'n hir, er mwyn i ni fedru craffu'n drylwyr ar bob agwedd o ddyfodol S4C."