ACau yn cefnogi mesur i ddiddymu rheolau streicio

  • 7 Ebrill 2017
Streic

Gallai rheolau sy'n ei gwneud yn anoddach i wasanaethau cyhoeddus streicio gael eu newid yng Nghymru wedi i grŵp trawsbleidiol o ACau gefnogi cyfraith newydd.

Nod y mesur yw diddymu rhannau o Ddeddf Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU.

Byddai'n golygu y bydd cyfyngiadau presennol ar weithredu diwydiannol yn y GIG, y gwasanaeth tân, ysgolion a gwasanaethau datganoledig eraill yng Nghymru yn newid.

Ond mae gweinidogion y DU wedi dweud mai mater i San Steffan yw cysylltiadau diwydiannol.

'Sarhad ar ddemocratiaeth'

Rhan allweddol o gyfraith newydd Llywodraeth y DU yw bod angen cefnogaeth 40% o aelodau undeb cyn y gall streic gael ei gynnal.

Ond dywedodd aelodau Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad bod angen y mesur newydd i gynnal safbwynt "partneriaeth gymdeithasol" Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, ym mis Mawrth y byddai'n "sarhad ar ddemocratiaeth" pe bai gweinidogion yn Llundain yn ceisio atal Mesur Undebau Llafur Cymru.

Image caption Dywedodd John Griffiths bod streiciau wedi bod yn "llai amlwg yng Nghymru nag yn Lloegr"

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths: "Dyw'r safbwynt partneriaeth ddim yn fêl i gyd, ond mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n dda yng Nghymru.

"Mae gweithredu diwydiannol ar ei isaf ers blynyddoedd ar draws y DU, ac mae streiciau wedi bod yn llai amlwg yng Nghymru nag yn Lloegr yn ddiweddar.

"Mae'n glir i ni fod llwyddiant y bartneriaeth gymdeithasol yn ddibynnol ar gydraddoldeb rhwng partneriaid, ac rydyn ni o'r farn bod deddf 2016 yn debygol o effeithio ar hyn.

"Oherwydd hyn, rydyn ni'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y mesur ac yn cytuno bod ei angen i ddiddymu rhannau o ddeddf 2016."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod Deddf Cymru 2017 yn datgan "tu hwnt i unrhyw amheuaeth nad yw'r polisi yma wedi'i ddatganoli".

Ychwanegodd y byddai San Steffan yn ymateb yn syth pe byddai angen "diogelu diddordebau trethdalwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru".