Arestio dau am ymwneud â drylliau yn Wrecsam

Stryd y Capel Image copyright Google
Image caption Mae rhan o Stryd y Capel ynghau o ganlyniad i'r darganfyddiad

Mae dau o bobl wedi eu harestio ar ôl i'r heddlu gynnal cyrch ar eiddo yn Wrecsam fore Gwener.

Cafodd yr hyn mae'r heddlu'n credu i fod yn ddrylliau eu canfod yn yr eiddo ar Stryd y Capel, yn ogystal â thân gwyllt peryglus.

O ganlyniad, mae'r adeilad wedi cael ei wagio, ac mae rhan o'r stryd wedi ei gau.

Bydd adran ffrwydron y Fyddin yn diogelu'r lleoliad maes o law.

Mae dyn 28 oed a dynes 35 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o fod â drylliau yn eu meddiant.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dave Jolly: "Hoffwn sicrhau'r cyhoedd nad yw hyn yn ddigwyddiad sy'n gysylltiedig â therfysgaeth.

"Mae'r warant wedi ei weithredu o ganlyniad i gudd-wybodaeth gafodd ei ddarparu gan y gymuned.

"Bydd swyddogion yn parhau i fod ar y lleoliad am beth amser wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliadau, a byddwn yn gofyn i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad."