Cadw'r ffydd yng Nghymru

  • 14 Ebrill 2017
Dr Barry Morgan

Bydd y Pasg hwn 'chydig yn wahanol na'r arfer i'r Dr Barry Morgan. Cyn ei ymddeoliad ym mis Ionawr bu'n Archesgob Cymru am 14 mlynedd.

Mae'n gyfle i'r gŵr, sy'n wreiddiol o Waencaegurwen, adlewyrchu ar oes o wasanaeth i'r Eglwys yng Nghymru a chael ambell i gyfle newydd i ledaenu neges y ffydd Gristnogol.

Ymhlith y cyfleoedd newydd sydd wedi dod i ran y Dr Morgan yw cyflwyno dau rifyn o Caniadaeth y Cysegr ar Radio Cymru, gan gynnwys y rhifyn arbennig fydd yn cael ei ddarlledu ar Sul y Pasg.

Bu'r Dr Barry Morgan yn bwrw golwg yn ôl ar ei yrfa ac yn asesu sefyllfa'r ffydd yng Nghymru gyda Cymru Fyw:


Petaech chi'n gofyn i aelod o fy nheulu ro'n i wastad eisiau bod yn offeiriad, ond nid felly yr oedd hi. Pan ro'n i yn astudio hanes yn y brifysgol yn Llundain es i ddim ar gyfyl addoldy am flwyddyn gyfan.

Yn raddol fe ail afaelais yn fy ffydd ac er fy mod i'n teimlo'r 'alwad' mi geisiais i am ychydig i redeg i ffwrdd trwy feddwl am wneud pethau eraill fel bod y athro. Ro'n in 21 oed pan wnes i benderfyniad i wasanaethu'r eglwys.

Dwi erioed wedi gorfod dewis swydd. Rwyf i unai wedi cael fy newis neu fy ethol ac rwy' wedi bod yn ffodus iawn i gael gwasanaethu mewn sawl rhan o Gymru. Dechreuais fel curad ar gyrion Caerdydd yn Ninas Powys.

Gwasanaethu yng Nghymru

A dweud y gwir, cyn i mi symud i Fangor, do'n i ddim wedi bod yn y gogledd rhyw lawer. Ond ers hynny rwy' wedi mwynhau pob ardal y bues i yn ei gwasanaethu. Bues i am gyfnod yn Wrecsam hefyd ac eto doeddwn i ddim yn 'nabod llawer ar y gogledd-ddwyrain.

Pan ddeuais i yn ôl i Gaerdydd yn 1999 i fod yn Esgob Llandaf, roedd y brifddinas wedi newid yn aruthrol o'r cyfnod ro'n i'n dechrau ar fy ngyrfa. Roedd yr eglwys a'r byd wedi newid hefyd ond yr un yw'r egwyddor o gyfathrebu'r gred yn Nuw a helpu'r gymdeithas i fyw bywyd beunyddiol trwy'r efengyl.

Ar un adeg ro'n i wedi gobeithio y byddai ganddom ni un eglwys unedig yng Nghymru ond mae'r gobaith hwnnw wedi diflannu dros y degawdau diwethaf. Rwy'n credu bod ambell i eglwys yn rhy geidwadol ac yn rhy awyddus i gadw eu trefn eu hunain.

Oes o newid

Wrth gwrs, mae 'na resymau diwinyddol a diwylliannol fyddai wedi gwneud realiti eglwys gyd-enwadol yn anodd. Ond ar nodyn mwy cadarnahol rwy'n falch o fod yn dyst i newidiadau mawr o fewn yr Eglwys yng Nghymru.

Ry'n ni yn ddiweddar wedi gweld yr esgob benywaidd cyntaf yng Nghymru yn cael ei hethol. Yr eglwys sy'n gyfrifol am y newid yma, ond rwy'n falch fy mod i wedi gwneud cyfraniad bychan tuag at ehangu rôl merched yn y gwaith o ledaenu gair Duw. Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith fy mod wedi gallu cysegru Joanna Penberthy yn Esgob Tyddewi cyn i mi ymddeol.

Yn fy ymddeoliad mae gen i fwy o amser i ymlacio, treulio mwy o amser 'da'r wyrion, i ddarllen ac i ymweld yn amlach â'r cwrs golff, ac rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle rwy' i wedi ei gael gan Radio Cymru i gyflwyno dau rifyn o Caniadaeth y Cysegr.

Mae yna her ddiwinyddol o ddehongli'r emynau, rhai ohonyn nhw gafodd eu cyfansoddi ganrifoedd yn ôl, ar gyfer yr oes fodern.

Image caption Roedd Dr Morgan yn falch o fedru cysegru esgob benywaidd cyntaf Cymru, Joanna Penberthy, cyn ymddeol

Camu o'r llwyfan

Er bod y byd yn newid yn gyflym mae'n bwysig cadw'r traddodiad o ganu emynau, boed nhw yn hen emynau o gyfnod William Williams Pantycelyn neu yn rai newydd. Mae natur y gymdeithas wedi newid yn sylweddol ers i mi gael fy ordeinio. Erbyn hyn mae siopau ar agor ar y Sul a llawer mwy o weithgareddau ar gael i dynnu sylw teuluoedd oddi wrth addoli.

Byddwn i yn dweud ei bod i'n bosib - er gwaetha'r holl demtasiyne' - i wneud y ddau beth.

Rwy' wedi bod yn barod i ddweud fy marn ar rai o bynciau llosg y dydd dros y blynydde' diwetha' ond rwy'n teimlo bod yn rhaid i Archesgob sy'n camu o'r llwyfan roi'r cyfle i'r arweinydd newydd gymryd yr awennau a chael y ffordd yn glir i gyfathrebu neges Duw. Fydde fe ddim yn help taswn i yna fel rhyw hyfforddwr rygbi ar ochr y cae yn gweiddi cyfarwyddiade'.

Er bod eglwysi yn cau a chynulleidfaoedd ar drai, mae Cristnogaeth yn dal i fod â rhan bwysig yn ein cymdeithas ni yng Nghymru. Dyw hynny ddim bob amser yn cael ei fynegi trwy weithgaredd eglwysig ond mae egwyddorion Crist yn cael eu rhoi ar waith mewn ffyrdd eraill hefyd, er enghraifft, mewn gwaith elusennol ar hyd a lled y wlad a thu hwnt.

Rwy'n gwerthfawrogi ein bod ni yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd gyda'r brwydro yn parhau yn Syria a'r pryderon ynglŷn â Brexit yn nes at adre', ond mae Duw yn gallu trechu pob dim yn y pen draw ac mae'n rhoi nerth a gobaith i'n hysbrydoli ac i'n helpu ni i wynebu pob her.

Image caption Bydd 'na newid mawr yn Esgobaeth Llandaf wedi ymddeoliad y Dr Barry Morgan