Morgannwg ar ei hôl hi yn erbyn Sir Northampton

Aneurin Donald Image copyright Getty Images
Image caption Aneurin Donald oedd prif sgoriwr Morgannwg ar ddiwrnod siomedig

Mae Morgannwg 167 o rediadau y tu ôl i Sir Northampton ar ôl y diwrnod cyntaf o chwarae ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Dim ond 101 sgoriodd Morgannwg yn eu batiad cyntaf yn Northampton, gan gael eu bowlio allan mewn llai na 32 pelawd.

Y batiwr ifanc Aneurin Donald oedd y prif sgoriwr, gyda 34 rhediad.

Roedd tair wiced yr un i fowlwyr Sir Northampton, Rory Kleinveldt, Ben Sanderson a Nathan Buck.

Kleinveldt oedd prif sgoriwr y tîm cartref, gan gyrraedd 71 heb fod allan.

Roedd wiced ar ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg i Marchant de Lange, a dwy yr un i Harry Podmore a Lukas Carey.

Ar ddiwedd y chwarae roedd Sir Northampton ar 268-6.