Pro12: Ulster 24-24 Gleision

  • 7 Ebrill 2017
Navidi Image copyright Press Eye

Gêm gyfartal gafodd y Gleision yn y Pro12 nos Wener wrth i gais hwyr gan Ulster sicrhau bod y timau'n rhannu'r pwyntiau.

Y Gleision oedd yn ymosod fwyaf yn yr hanner cyntaf ac fe wnaeth Sam Warburton sgorio cais, ond Ulster oedd ar y blaen erbyn yr egwyl wedi cais gan Paddy Jackson a chais gosb.

Sgoriodd Reynold Lee-Lo ddwy gais yn yr ail hanner i roi'r Gleision saith pwynt ar y blaen, ond llwyddodd Luke Marshall i unioni'r sgôr gyda chais.

Mae'r canlyniad yn ergyd i obeithion Ulster o gyrraedd gemau'r ail gyfle, tra bod y Gleision yn aros yn wythfed.