Dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad M4 ger Caerdydd

  • 8 Ebrill 2017
M4 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad yn agos i gyffordd 30, Porth Caerdydd

Mae dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fan ar yr M4 nos Wener.

Mae'r draffordd yn parhau i fod ar gau i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffyrdd 29 a 32 wrth i Heddlu De Cymru ymchwilio.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yr ardal Porth Caerdydd am tua 18:20.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans dderbyn adroddiadau bod person wedi rhedeg allan i'r ffordd wrth geisio dal ci oedd yn rhydd.

Mae'r heddlu yn rhybuddio am oedi i yrwyr all barhau am rai oriau, wrth i draffig gael ei ddargyfeirio i'r A48M.