West Ham 1-0 Abertawe

  • 8 Ebrill 2017
Abertawe Image copyright Reuters

Parhau yng ngwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr mae Abertawe ar ôl colli yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn.

Fe ddaeth unig gôl y gêm ychydig cyn hanner amser, wrth i Cheikhou Kouyate sgorio i'r Hammers.

Daeth cyfle gorau'r Elyrch i'r eilydd Luciano Narsingh, ond fe sgubodd ei ergyd dros y gôl.

Gyda dim ond chwe gêm yn weddill o'r tymor, mae brwydr Abertawe i oroesi yn Uwch Gynghrair Lloegr yn profi'n anoddach bob wythnos.