Caerdydd 2-1 Brentford

Caerdydd Image copyright Rex Features
Image caption Mae Peter Wittingham wedi sgorio saith gôl i Gaerdydd y tymor hwn

Fe frwydrodd Caerdydd yn ôl i guro Brentford yn y Bencampwriaeth.

Fe chwaraeodd Brentford bêl-droed deniadol yn y tri chwarter awr agoriadol, a thri munud cyn yr hanner, fe gafodd Sergi Canos ryddid y cwrt cosbi i guro Allan McGregor i'r gôl.

Wedi'r egwyl, fe ddaeth peniad Sean Morrison â'r Adar Gleision yn gyfartal, cyn i Peter Wittingham daro cefn y rhwyd gydag ergyd o'i droed dde.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn aros yn y pedwerydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.