Bromley 4-3 Wrecsam

  • 8 Ebrill 2017
wrecsam Image copyright Arall

Colli fu hanes Wrecsam yn erbyn Bromley, er gwaetha brwydro'n ôl yn ddewr yn yr ail hanner.

Roedd Wrecsam ar ei hol hi o 0-3 wedi 48 munud, ond fe ddaeth goliau gan Jordan White a Ntumba Massanka a'u gobeithion yn ol yn fyw, cyn i Blair Turgott sgorio pedwaredd gôl Bromley.

Fe sgoriodd Massanka eto yn hwyr yn y gêm, ond doedd e ddim yn ddigon i sicrhau pwynt.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn disgyn o'r 10fed i'r 12fed safle yn y Cynghrair Cenedlaethol.