Caerwysg 0-1 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Rex Features
Image caption Tom Owen-Evans yn dathlu ei gôl yn erbyn Caerwysg

Mae Casnewydd dri phwynt o ddiogelwch yn yr Ail Adran ar ôl buddugoliaeth bwysig yn erbyn Caerwysg.

Bu'n rhaid gohirio'r gic gyntaf oherwydd problemau traffig, a Chaerwysg gafodd y cyfle cyntaf i fynd ar y blaen, ond llwyddodd Joe Day i arbed peniad David Wheeler.

Tom Owen-Evans aeth a Chasnewydd ar y blaen gyda chic hirbell yn gynnar yn yr ail hanner, ac fe allai Alex Samuel fod wedi dyblu'r fantais ychydig funudau'n ddiweddarach, ond fe aeth y bêl dros y bar.

Er gwaetha'r fuddugoliaeth, mae Casnewydd yn yr ail safle o'r gwaelod yn Adran Dau gyda phum gêm o'r tymor i fynd.