Gweilch 18-20 Leinster

  • 8 Ebrill 2017
Gweilch Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rhys Webb yn brwydro'n erbyn ymosodiadau Leinster

Fe fethodd Dan Biggar gic gosb ym munud ola'r gêm, wrth i'r Gweilch golli yn erbyn Leinster yn Stadiwm y Liberty.

Roedd y tîm cartref ar y blaen tan i Ross Byrne lwyddo i drosi gôl adlam hwyr.

Fe sgoriodd Sam Davies a Justin Tipuric geisiau i'r Gweilch, a Sean Cronin a Dan Leavy i'r ymwelwyr.

Fe allai safle'r Gweilch ym mhedwar ucha'r tabl fod dan fygythiad petai'r Scarlets yn curo Treviso yn ddiweddarach nos Sadwrn.