Zebre 29-14 Dreigiau

  • 8 Ebrill 2017
Zebre Dreigiau Image copyright Rex Features
Image caption Derick Minnie yn sgorio dros Zebre

Colli fu hanes Dreigiau Gwent i ffwrdd yn Parma yn erbyn Zebre yng nghystadleuaeth y Pro 12.

Fe lwyddodd yr Eidalwyr i sicrhau pwynt bonws wrth sicrhau buddugoliaeth swmpus o 29 i 14, gyda cheisiau gan Federico Ruzza, Derick Minnie, Edoardo Padovani a Johan Meyer.

Cory Hill ac Andy Hughes sgoriodd geisiau'r Dreigiau, gydag Angus O'Brien yn trosi ddwy waith.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Zebre yn codi o waelod tabl y Pro 12.