Scarlets 51-5 Treviso

  • 9 Ebrill 2017
Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Scarlets wedi codi i'r pedwerydd safle yn nhabl y Pro 12 ar ôl iddyn nhw guro Treviso'n gyfforddus nos Sadwrn.

Sgoriodd DTH van der Merwe dri chais wrth i'r Scarlets groesi'r llinell wyth gwaith i gyd, ac 11 mlynedd ers ei gem gyntaf, fe diriodd Ken Owens y bêl yn ei 200fed gêm i sicrhau pwynt bonws.

Daeth unig bwyntiau Treviso yn yr ail hanner, gyda chais Francesco Minto, ond gwaeth aeth pethau i'r Edialwyr pan gafodd Minto, Fedrico Zani ac Edoardo Gori eu hanfon i'r gell gosb o fewn chwe munud i'w gilydd wedi awr o chwarae.

Fe gymrodd y Scarlets fantais o'r sefyllfa gyda'r trydydd cais i van der Merwe, cyn i Aled Davies gyfrannu at y sgôr.