Canŵiwr yn canfod corff yn Afon Taf

Taf Image copyright Cyngor Caerdydd

Cafodd corff ei ganfod yn Afon Taf yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod canŵiwr wedi dod o hyd i'r corff yn y dŵr yng nghored Radur ychydig wedi 11:00.

Fe dreuliodd swyddogion dair awr yn yr ardal fel rhan o'u hymchwiliad.

Does dim manylion pellach ar hyn o bryd.