M4: Cyhoeddi enw dynes fu farw wrth geisio dal ei chi

Damwain M4 Image copyright Wales news service
Image caption Roedd Patricia Joyce Connors yn 'fam, mam-gu a hen fam-gu gariadus', meddai ei theulu

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw'r wraig 66 oed fu farw ar ôl cael ei tharo gan fan ar yr M4 nos Wener.

Roedd Patricia Joyce Connors yn ceisio dal ei chi oedd wedi rhedeg ar draffordd pan gafodd ei tharo gan fan.

Bu farw yn y fan a'r lle, a chafodd y ci ei ladd yn y digwyddiad hefyd.

Dywedodd teulu Ms Connors fod eu "calonnau wedi eu torri wrth geisio dod i dermau a'r ddamwain drasig hon" gan ei disgrifio fel "mam, mam-gu a hen gam-gu gariadus".

Dydy'r heddlu ddim wedi cyhoeddi ym mhle roedd Ms Connors yn byw.

Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad yn agos i gyffordd 30, Porth Caerdydd nos Wener