Sir Northampton yn chwalu Morgannwg mewn deuddydd

  • 8 Ebrill 2017
Criced Image copyright Getty Images
Image caption Fe gipiodd Ben Sanderson saith o wicedi Morgannwg dros ddeuddydd o chwarae

Fe gafodd Morgannwg eu llorio gan Sir Northampton ar ail ddiwrnod y chwarae oddi cartref, gyda'r ymwelwyr i gyd allan yn eu hail fatiad am 187.

Fe reolodd Northants y chwarae am ran helaeth o'r ail ddiwrnod, gyda Ben Sanderson yn cipio pedair wiced.

Colin Ingram sgoriodd uchaf i Forgannwg, gyda 47, ond roedd y tîm y cartre'n drech ar ddechrau'r tymor criced newydd.

Enillodd Northampton o fatiad a 22 rhediad.