Pedwar yn ddifrifol wael wedi gwrthdrawiad yn Nhorfaen

gwrthdrawiad Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4043 ger Pont-y-pwl nos Wener

Mae pedwar o bobl yn parhau'n ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn Nhorfaen.

Cafodd dau ambiwlans awyr eu galw i'r A4043, Ffordd Cwmafan ger Pont-y-pwl nos Wener, wedi i wyth o bobl gael eu hanafu.

Dywedodd Heddlu Gwent fod dau ddyn lleol yn cael triniaeth i anafiadau difrifol a bod eu bywydau mewn perygl.

Mae dwy fenyw'n cael triniaeth i anafiadau difrifol, tra bod dyn, dynes a dau o blant wedi cael mynd adref o'r ysbyty.

Roedd adroddiadau cynnar yn awgrymu bod pedwar cerbyd yn rhan o'r ddamwain.

Bellach, mae Heddlu Gwent yn dweud mai Ford Fiesta coch, Toyota Aygo glas a Ford S-Max llwyd darodd yn erbyn ei gilydd ac maen nhw'n apelio am dystion.